Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Arbenigwyr iechyd yn ymdrin â phryderon ynglŷn â Strep A a’r dwymyn goch

Gan fod gwasanaethau ysbytai a meddygfeydd dan bwysau mawr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dymuno tawelu meddyliau cymunedau lleol ynglŷn â’r haint Streptococol Grŵp A (Strep A).

Fel arfer, mae Strep A yn achosi heintiau ar y croen ac yn y gwddf, megis impetigo, tonsilitis neu lid y ffaryncs – anhwylderau nad ydynt, fel rheol, yn rhy ddrwg. Mae Strep A hefyd yn achosi’r dwymyn goch a gellir trin y salwch hwnnw’n rhwydd gyda gwrthfiotigau.

Mewn achosion prin, gall Strep A achosi ‘haint Streptococol Grŵp A ymledol’ (iGAS), sef cymhlethdod prin sy’n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Er bod iGAS yn gyflwr sy’n peri gofid, bydd y rhan fwyaf o’r plant hyn yn gwella ar ôl cael triniaeth briodol.

Yr hyn sy’n achosi’r heintiau yma yw bacteria yn mynd i rannau o’r corff lle na cheir y bacteria hynny’n arferol, megis yr ysgyfaint, y gwaed neu’r cyhyrau.

Mae’n bwysig nodi bod achosion o iGAS yn dal i fod yn brin a bod y risg o ddal y clefyd yn isel iawn. Fodd bynnag, mae yna gynnydd eleni mewn heintiau iGAS, yn enwedig ymhlith plant dan 10 oed, a hefyd gwelir cynnydd mewn achosion o’r dwymyn goch.

Er ein bod yn deall bod rhieni’n debygol o fod yn bryderus ynglŷn â’r adroddiadau am iGAS, mae’r cyflwr yn dal i fod yn brin.

Mae symptomau annwyd a ffliw yn gyffredin iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig ymhlith plant. Bydd y rhan fwyaf o blant yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin trwy yfed digon a thrwy gymryd paracetamol.

Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau annwyd a ffliw – dolur gwddf, cur pen, gwres – yn dioddef symptomau cynnar y dwymyn goch, sef salwch arall sy’n mynd o gwmpas yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd y plant hyn yn mynd yn eu blaen i ddatblygu symptomau’n ymwneud yn benodol â’r dwymyn goch, yn cynnwys brech fân binc-goch sy’n debyg i bapur tywod wrth ei theimlo, a dylai’r rhieni gysylltu â’u meddyg teulu.

Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder, fel arfer nid yw’n salwch rhy ddrwg a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ar ei ôl heb unrhyw gymhlethdod, yn enwedig os caiff y salwch ei drin yn briodol â gwrthfiotigau.

Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw rhoi’r gofal y bydden nhw’n ei roi fel arfer i blentyn â symptomau annwyd a ffliw, ond fe ddylen nhw hefyd wneud yn siŵr eu bod yn gyfarwydd â symptomau’r dwymyn goch ac iGAS rhag ofn. Hefyd, mae’n bwysig i blant dwyflwydd oed a hŷn gael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol, a chael brechlyn.

Dr Graham Brown, Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ddiamau, dyma gyfnod pryderus i rieni a gofalwyr – fe fyddan nhw, wrth gwrs, eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eu plant yn aros yn iach.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai nifer fechan o achosion yn unig a geir.

Ond er bod yr achosion yn brin, rydym yn annog rhieni a gofalwyr i ymgyfarwyddo â’r arwyddion a’r symptomau, er mwyn iddyn nhw allu cymryd camau’n ddi-oed pe baen nhw’n amau bod eu plentyn yn dioddef symptomau’r dwymyn goch neu Strep A ymledol.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg

Ceir rhagor o wybodaeth, ynghyd ag adran Cwestiynau Cyffredin, ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Chwilio A i Y