Ansawdd yr aer yn parhau i wella ar Stryd y Parc
Poster information
Posted on: Dydd Llun 28 Hydref 2024
Mae lefelau nitrogen deuocsid ar Stryd y Parc yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ostwng yn dilyn gweithredoedd sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn ansawdd yr aer yn lleol.
Mae diweddariad blynyddol a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi cadarnhau, er gwaethaf allyriadau yn parhau i fod ychydig yn uwch na thargedau cenedlaethol, mae gostyngiad cymaint â 22 y cant wedi bod mewn allyriadau ers sefydlu Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn 2019.
Cyflwynodd hyn nifer o fesurau sydd wedi’u dylunio i fynd i’r afael â lefelau nitrogen deuocsid, gwella llif traffig, lleihau’r nifer o gerbydau sy’n ciwio ar hyd y ffordd a sicrhau bod allyriadau yn cyd-fynd â thargedau statudol.
Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys ffordd i droi i’r dde i Heol-y-Nant o Stryd y Parc, ac uwchraddiad llawn o’r system oleuadau traffig yn y gyffordd rhwng Stryd y Parc a Stryd yr Angel i sicrhau y gall traffig symud drwy'r gyffordd ar y lefelau mwyaf effeithiol posib.
O ganlyniad, disgwylir i ansawdd aer ar hyd Stryd y Parc gydymffurfio’n llawn â thargedau cenedlaethol erbyn 2026, a gall y cyngor ddechrau edrych p’un a yw’r Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn parhau i fod yn angenrheidiol o 2027 ymlaen.
Dyma newyddion gwych ac rwy’n falch iawn o weld y ffordd y mae’r cynllun gweithredu ac ymdrechion y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir yn cael effaith mor gadarnhaol ar hyd Stryd y Parc.
Gall trigolion fod yn sicr y byddwn yn parhau i fonitro lefelau nitrogen deuocsid yn rheolaidd ar hyd y ffordd, a byddwn yn parhau i weithredu tan bod cydymffurfiaeth lawn yn digwydd.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad - Y Cynghorydd Hywel Williams: