Annog pobl i gefnogi Apêl Siôn Corn 2023 - nid yw'n rhy hwyr i gyflwyno rhodd!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023
Hoffai adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi i Apêl Siôn Corn eleni, a’ch atgoffa bod amser o hyd ar ôl, ichi gyflwyno rhodd.
Mae’r apêl flynyddol am deganau ac anrhegion i blant a phobl ifanc, na fyddant o bosibl yn cael anrheg ar fore Nadolig fel arall, yn cau ddydd Llun 4 Rhagfyr, felly ystyriwch roi.
Bydd eich rhodd yn sicrhau y bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd dan ein gofal anrheg i’w hagor a rheswm i wenu ar fore Nadolig.
Mae rhoddion arian yn ddelfrydol er mwyn prynu anrhegion sy’n addas i blant a phobl ifanc o'u geni hyd at 21 mlwydd oed.
Os hoffech chi helpu, drwy roi cyfraniad bychan hyd yn oed, ewch i dudalen Just Giving Awen a chyfrannwch ar-lein. Gallwch hefyd gyfrannu drwy gerdyn neu arian parod yn eich pwll nofio neu ganolfan chwaraeon Halo lleol.
Os byddai'n well gennych chi brynu rhodd, dylech ddanfon eich rhodd newydd, heb ei lapio, mewn bag rhodd i'r mannau gollwng dynodedig canlynol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell Abercynffig
- Llyfrgell Betws
- Llyfrgell Maesteg
- Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
- Llyfrgell Pencoed
- Llyfrgell Porthcawl
- Canolfan Bywyd/Llyfrgell y Pîl
- Llyfrgell Sarn
Mae oriau agor y llyfrgelloedd ar gael ar wefan Awen.
Bydd gwirfoddolwyr yn mynd ati i roi trefn ar yr anrhegion yn ôl grwpiau oed priodol a’u lapio’n barod i’w danfon i gartrefi plant a phobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mor garedig â rhoi rhodd i Apêl Siôn Corn hyd yn hyn eleni.
Gall y Nadolig fod yn gyfnod trist ac anodd iawn i nifer o blant a phobl ifanc lleol, a bydd eich rhodd, waeth pa mor fach, yn mynd yn bell i’w helpu i brofi ychydig o hwyl yr ŵyl.
Cofiwch gyflwyno eich rhoddion erbyn dydd Llun 4 Rhagfyr – diolch!
Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie