Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Annog busnesau i fod yn wyliadwrus o sgâm rhifau archeb

Mae busnesau’n cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o sgam sy’n targedu cyflenwyr offer presennol a phosibl i sefydliadau megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r sgam, sydd wedi arwain at fusnes lleol yn colli gwerth bron £40,000 o nwyddau oherwydd twyll, yn gweithio mewn ffordd benodol:

  • Bydd cyflenwr yn cael e-bost neu alwad ffôn yn gofyn am ddyfynbris ar gyfer eitemau penodol o offer. Gall y rhain fod mewn cyfansymiau mawr neu fach, a gwerthoedd isel i uchel.
  • Unwaith y mae’r dyfynbris cael ei anfon, bydd rhif archeb yn cael ei anfon dros e-bost i’r cyflenwr. Mae’r rhif archeb yn debyg i un go iawn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n gofyn am y nwyddau ar archeb net 30 diwrnod.
  • Fel arfer, mae’r rhif archeb yn cynnwys cyfarwyddiadau cludo i gyfeiriad a allai fod ynghlwm wrth yr awdurdod lleol neu beidio.
  • Ar ôl danfon yr offer, nid yw’r cyflenwr yn cael ei dalu, a does dim modd cael y nwyddau yn ôl.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa busnesau y bydd pob e-bost gwirioneddol gan yr awdurdod yn dod gan gyfeiriad e-bost ‘@bridgend.gov.uk’.

Os yw busnesau’n amau bod cais am ddyfynbris a anfonir dros e-bost neu archeb prynu yn un ffug, gallant gysylltu â procurementteam@bridgend.gov.uk i wneud yn siŵr.

Hefyd, mae busnesau’n cael eu rhybuddio i beidio â ffonio unrhyw rif ffôn ar yr e-bost twyllodrus sy’n honni eu bod nhw’n rhifau awdurdod lleol, oherwydd gallant arwain at gostau gwasanaeth drud iawn.

Mae hon yn sgam boblogaidd ymysg twyllwyr gan y gallant gael gafael ar lawer iawn o nwyddau gwerthfawr. Yn anffodus, mae hefyd yn achosi niwed sylweddol a gall drechu busnes bach neu ganolig.

Dylid adrodd am bob achos o weithgarwch twyllodrus i Heddlu De Cymru ac Action Fraud, ac rwy’n annog busnesau lleol yn gryf i fod yn wyliadwrus a chynnal gwiriadau’n rheolaidd i amddiffyn eu hunain rhag twyll fel hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol:

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i adnabod e-byst ac archebion prynu twyllodrus, ewch i wefan y cyngor.

Chwilio A i Y