Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Amlosgfa Llangrallo yn cyfrannu dros £11,000 i Ambiwlans Sant Ioan Cymru

Mae Amlosgfa Llangrallo wedi cyfrannu dros £11,000 i Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel rhan o gynllun cenedlaethol sy’n codi arian at lawer o achosion da o amgylch y wlad. 

Derbyniodd yr elusen gyfanswm o £11,600 a chafodd ei henwebu gan Bwyllgor ar y Cyd Amlosgfa Llangrallo, sy’n cynnwys cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.  

Yn flaenorol, mae’r Amlosgfa wedi cyfrannu ei chyfran o arian a godwyd i elusennau lleol amrywiol yn ymwneud ag elusennau ac mae wedi bod yn rhan gynllun yr Institute of Cemetery and Crematorium Management’s scheme (ICCM) ers 2005.

Mae Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn cyflawni gwaith hanfodol i achub bywydau ac arfogi pobl gyda’r sgiliau angenrheidiol i helpu i achub bywydau, gan gynnig cymorth trafnidiaeth i gleifion i Wasanaeth Ambiwlans y GIG a byrddau iechyd lleol ar yr un pryd. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau hyfforddiant iechyd meddwl a chymorth cyntaf i sefydliadau ledled Cymru.

Ymatebodd llefarydd ar gyfer Ambiwlans Sant Ioan Cymru: “Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion yma! Diolch yn fawr iawn, iawn! Mae hwn yn swm anhygoel, ac mae pawb ohonom mor ddiolchgar am y gefnogaeth”.

Mae'n fraint i ni wneud cyfraniad tuag at Ambiwlans Sant Ioan Cymru ac rydym yn cydnabod y gwaith gwerthfawr maent yn ei wneud yn y gymuned, nid yn unig i achub bywydau ond i ddarparu hyfforddiant hanfodol i nifer o sefydliadau ledled y wlad.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd John Spanswick, sydd hefyd yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo:

Chwilio A i Y