Amddiffynfeydd môr newydd ar y gweill ar gyfer Traeth Coney
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Mehefin 2023
Mae hysbysiadau cyhoeddus wedi’u gosod ar hyd Traeth Coney ym Mhorthcawl i hysbysu trigolion am fwriad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddefnyddio ychydig o’r tir yn ardal y glannau i ddarparu amddiffynfeydd môr newydd, gwell.
Gan fod hyn yn cynnwys rhannau bach o’r traeth y gellid eu hystyried fel mannau agored, mae’r hysbysiadau wedi’u codi fel rhan o broses prynu gorfodol barhaus ac mewn cydymffurfiaeth â Deddf Caffael Tir 1981 i sicrhau bod pobl yn cael eu diweddaru a rhoi cyfle iddynt leisio eu barn am y cynllun.
Mae’r amddiffynfeydd môr newydd sydd ar y gweill ar gyfer Traeth Coney wedi’u dylunio i warchod busnesau a chartrefi rhag llifogydd a chynnig, ar yr un pryd, mynediad gwell i’r traeth a gwneud ardal y glannau yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd y cynnig yn creu cyfres o ragfuriau grisiog hawdd i’w defnyddio yn ogystal â mynediad ramp wedi’i leoli’n briodol a mesurau atal llifogydd cysylltiedig, tebyg i’r dyluniadau a ddefnyddir eisoes mewn trefi glan y môr eraill ledled y DU.
O dan y cynigion cyfredol, bydd y tir yn parhau’n fan agored unwaith bydd yr amddiffynfeydd môr newydd wedi’u gosod, gan adael Traeth Coney a Bae Tywodlyd yn fwy deniadol i edrych arnynt, a hyd yn oed yn fwy hygyrch.
Bydd manylion pellach ynglŷn â’r amddiffynfeydd môr newydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae’r hysbysiadau cyhoeddus yn cynrychioli’r cam cyntaf yn y broses hon, sy’n ffurfio rhan o’n cynlluniau ehangach ar gyfer y cam nesaf o gynllun Adfywio Porthcawl.
Fel rhan o’r cynllun, rydym yn awyddus i ddyblu maint Parc Griffin a chreu coridor gwyrdd newydd a fydd yn ei gysylltu â’r traeth, creu amrywiaeth o gyfleusterau busnes, hamdden a phreswyl, a sefydlu ysgol newydd ynghyd â gwella diogelwch ar yr arfordir a chyflwyno mesurau ecolegol newydd i ddiogelu’r systemau twyni lleol.
Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, y Cynghorydd Rhys Goode
Bydd yr hysbysiadau cyhoeddus ar gael rhwng 15 Mehefin – 7 Gorffennaf ac maent hefyd i’w gweld ar-lein.