Ailddatblygiad gwerth £20m yn datblygu’n dda yn y Pafiliwn y Grand eiconig!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi darparu diweddariad ar gynnydd y prosiect ailddatblygu gwerth £20m ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.
Mae gwaith paratoi ar y gweill yn yr adeilad Art Deco 1932 ar hyn o bryd, a gychwynnodd ddechrau mis Mehefin, gan ffurfio rhan hanfodol o’r gwaith o baratoi’r adeilad ar gyfer y prif waith adnewyddu yn ddiweddarach eleni.
Penodwyd Prichard Demolition fel y contractwr i fynd i’r afael â’r gwaith paratoi y tu mewn i'r adeilad rhestredig Gradd II, sy’n cynnwys tynnu pob plastrfwrdd a tho crog yn yr adeilad er mwyn mynd â'r adeilad yn ôl i'w gragen goncrid, gan dynnu’r cit trydanol a mecanyddol a chodi strwythurau dros dro. Mae’r cyngor hefyd wedi comisiynu nifer o arolygon gan gynnwys arolwg systemau CCTV, draenio, topograffeg, adnewyddu a dymchwel asbestos. Bydd gwaith monitro llwch hefyd yn parhau drwy gydol cyfnod y gwaith paratoi.
Mae tîm o arbenigwyr yn gweithio gyda’r contractwyr i sicrhau cadwraeth nodweddion hanesyddol ac archaeolegol allweddol y tu mewn i’r adeilad.
Mae Helen Hughes yn ymchwilydd nodweddion mewnol hanesyddol, yn gadwraethwr ac yn rhan o'r tîm arbenigol a gomisiynwyd i dynnu ac archwilio samplau gwaith paent hanesyddol o’r adeilad sy’n dyddio’n ôl i 1930s.
Dywedodd Mike Dean, y Rheolwr Contractau ar gyfer Prichard Demolition: “Fel busnes lleol roedd yn fraint i ni gael ein gwobrwyo gyda’r pecyn paratoi ar gyfer adeilad rhestredig Gradd II Pafiliwn y Grand, Porthcawl. Mae’r gwaith yn datblygu’n dda, yn unol â’r amserlen. Rydym yn edrych ymlaen at drosglwyddo’r adeilad ar gyfer y prif brosiect adnewyddu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”
Bydd y gwaith ailddatblygu yn cynnwys estyniad yng nghefn yr adeilad, ac yn darparu oriel a theatr stiwdio newydd, tra bydd ychwanegiadau blaen gwydr at y logias sydd eisoes yn bodoli yn darparu caffi newydd gyda golygfeydd ar draws y bae.
Braf iawn oedd cael cipolwg ar y gwaith adnewyddu mewnol hyd yma. Mae cynnydd sylweddol wedi digwydd o ran y gwaith paratoi i arwain y ffordd ar gyfer y prif waith adnewyddu ar yr adeilad yn ddiweddarach eleni.
Mae’n destun cyffro i mi ein bod yn gallu chwarae rhan allweddol yn nhaith anhygoel yr adeilad hanesyddol hwn. Nid yn unig y bydd yr ailddatblygiad uchelgeisiol hwn yn mynd i'r afael â’r risgiau cyfredol i ffabrig yr adeilad, sy’n heneiddio, ond bydd hefyd yn gweithredu fel gwasanaeth llyfrgell, celfyddydau a diwylliant y gall ein bwrdeistref sirol a chymuned Porthcawl fod yn eithriadol o falch ohono.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, John Spanswick, a ymwelodd â’r adeilad yn gynharach heddiw:
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym yn falch iawn o weld bod y gwaith paratoi a gynlluniwyd yn datblygu’n dda, cyn y gwaith adeiladau sy’n dechrau ar y safle yn ddiweddarach eleni. Un o agweddau cyffrous yr ailddatblygiad hwn yw’r cyfle i warchod a gwella hanes a threftadaeth gyfoethog Pafiliwn y Grand, felly rydym yn edrych ymlaen at ddatguddio nodweddion o fewn yr adeilad sydd wedi bod ynghudd ers amser maith wrth i’r gwaith ddatblygu.”
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chronfa Ffyniant Bro y DU.