Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ail rownd y Cynllun Cymorth Tanwydd yn ceisio helpu mwy o aelwydydd

Mae Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei gynnig am yr ail waith, a bydd yn cael ei ymestyn i gefnogi cymuned ehangach sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd y grant. 

Wedi'i lansio yn 2021, mewn ymateb i'r cynnydd parhaus mewn costau byw, yn wreiddiol, roedd y cynllun yn cynnig taliad un-tro gwerth £100 i aelwydydd cymwys er mwyn helpu gyda biliau gwres dros y gaeaf. Ym mis Chwefror, dyblodd y ffigwr i £200. 

Bydd yr ail rownd, a fydd yn cael ei chyflwyno rhwng 26 Medi 2022 a 28 Chwefror 2023, yn cael ei chynnig i nifer cynyddol o aelwydydd. Disgwylir i daliad un-tro gwerth £200 gael ei rhannu i'r rheiny sy'n gymwys o fis Hydref 2022.   

Mae'r cynllun yn ychwanegol at yr ad-daliad Bil Trydan sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU, a'r Taliad Tanwydd dros y Gaeaf sydd fel arfer yn cael ei gynnig i bensiynwyr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi anfon llythyr at bobl mae'n credu sy'n gymwys, ac mae modd gwneud cais ar-lein drwy gyfleuster 'Fy Nghyfrif' y cyngor.

Mae'r fenter ar gael i aelwydydd lle mae ymgeisydd yn hawlio unrhyw rai o'r budd-daliadau cymwys penodol hyn.  Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf, yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn annog trigolion lleol i fanteisio ar y cymorth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Y tro diwethaf i ni gyflwyno'r cynllun, bu'r taliad o fudd i filoedd o aelwydydd cymwys yn y fwrdeistref sirol. Y tro hwn, gobeithiwn gynyddu'r nifer hwn ymhellach, wrth ymestyn y cynllun i grŵp ehangach o bobl gymwys.

Rydym wir yn gobeithio y bydd y cyllid yn helpu i leddfu'r straen ariannol mae pobl yn ei brofi ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau

Chwilio A i Y