Ail-agor y cyrtiau tennis yn swyddogol ar ôl gwaith adnewyddu o'r radd flaenaf
Poster information
Posted on: Dydd Iau 05 Hydref 2023
Mae pedwar cwrt tennis cymunedol wedi’u hail-agor yn swyddogol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o brosiect ar y cyd, gwerth £520,000 sy’n cynnig gwelliannau i gyfleusterau presennol wrth hyrwyddo pwysigrwydd ffordd actif o fyw ar gyfer plant ac oedolion.
Un o sawl nod y prosiect yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a chafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Plasnewydd gyfle i roi cynnig ar y cyfleusterau newydd ym Mharc Llesiant Maesteg fel rhan o'r digwyddiad agor swyddogol.
Mae’r gwelliannau wedi’u hariannu’n rhannol gan Gynllun Trosglwyddo Asedau (CAT) Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraeth y DU a’r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA).
Mae cyrtiau ym Mharc Llesiant Maesteg, Parc Caedu (Cwm Ogwr) a Heol-y-cyw i gyd wedi elwa o’r prosiect. Mae'r holl waith wedi’i gynllunio gyda’r dyfodol mewn golwg, ac maent yn cynnwys gwelliannau fel:
- Ail-wynebu
- Ail baentio
- Rhwydi a ffensys newydd
- Systemau giatiau newydd
Yn ogystal â sesiynau tennis parc am ddim, wythnosol, gydag offer yn cael ei ddarparu, bydd y cyrtiau newydd yn cynnal Cynghreiriau Tennis Lleol, yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol cyfeillgar a chymdeithasol.
Gellir prynu tocyn aelwyd blynyddol am £39 – pris sy’n golygu bod modd i deuluoedd chwarae gêm i ddau berson bob wythnos am lai na 50c y chwaraewr. Mae tocyn myfyriwr blynyddol yn costio £19, tra bod modd i unigolion nad oes ganddynt docyn blynyddol dalu a chwarae am £4.50 yr awr.
Bydd y ffioedd bach hyn yn sicrhau bod y cyrtiau’n cael eu cynnal ar eu safon uchel newydd am flynyddoedd i ddod. Mae’r holl gyrtiau ar gael i’w harchebu ar Weefan yr LTA.
Mae’n wych gweithio â phartneriaid fel yr LTA a Llywodraeth y DU i ariannu’r gwaith o wella cyfleusterau tennis ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae ein parciau’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu trigolion i wella a chynnal eu hiechyd meddwl, felly mae'n hynod galonogol ein bod yn gallu cynnig cyfleusterau newydd sbon i annog pobl i fod yn heini.
Mae’r ffaith y bydd y gwaith adfer o fudd i nifer o’n cymunedau lleol hefyd yn newyddion da, gan fod hyn yn ategu ymrwymiad y cyngor i lesiant ar draws y fwrdeistref sirol yn gyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:
Ychwanegodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredol yr LTA: “Ar ôl misoedd o waith caled, pleser yw gweld y cyrtiau tennis parc ledled Pen-y-bont ar Ogwr yn ail-agor i’r cyhoedd, ac mewn gwell cyflwr nag erioed.
“Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau hanfodol er mwyn annog bod yn heini, ac rydym eisiau i gyn nifer o bobl â phosibl, o bob oed a gallu, fwynhau chwarae tennis. Diolch i’r buddsoddiad hwn, bydd y gamp yn fwy hygyrch i fwy o bobl, am flynyddoedd i ddod.”