Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adnewyddiadau yn Ysgol Gyfun Pencoed yn derbyn cymeradwyaeth ardderchog gan ddisgyblion

Yn gynharach eleni, cwblhawyd adnewyddiadau i gyfleusterau Ysgol Gyfun Pencoed ar gyfer ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghyd ag adeiladu Canolfan Bêl-rwyd Pencoed ar y safle, sy’n cynnwys dau gwrt pêl-rwyd newydd ar gyfer yr ysgol, a defnydd cymunedol.

Wedi’u sbarduno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi’u hariannu gan grantiau cyfalaf Ysgolion Bro ac Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru, mae’r gwelliannau wedi cael croeso cynnes gan y staff, y dysgwyr, a’r gymuned. 

Mae’r ganolfan adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol, Tŷ Ewenni, wedi gweddnewid addysgu a dysgu yn gyfan gwbl yn yr ysgol ar gyfer y 56 disgybl a gefnogir yno. Yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth a swyddfeydd wedi’u hadnewyddu ar gyfer staff, cyfleusterau toiled wedi’u huwchraddio, yn cynnwys toiled hygyrch, ardal gofal personol preifat ar gyfer disgyblion, ardaloedd tawel dynodedig ar gyfer tasgau sydd angen llawer o ganolbwyntio, mynediad at yr awyr agored i gefnogi dysgu, yn ogystal ag ystafell synhwyraidd i annog tawelwch - mae’r ardal amlbwrpas newydd yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol y dysgwyr.

Dywedodd Nicola Perkins, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ac athrawes arweiniol Tŷ Ewenni: “Mae’r gwelliannau i amgylchedd dysgu Tŷ Ewenni wedi gwella teimlad y disgyblion o berchnogaeth o fewn yr ysgol, gan sicrhau eu bod yn teimlo o werth ac yn cael eu trin yn deg. Mae’r newidiadau’n rhoi cyfle i’n dysgwyr ffynnu a dysgu mewn amgylchedd diogel, aml-synhwyraidd a phrysur, wedi’u cyfarparu â’r adnoddau gorau i gefnogi eu hanghenion.

Ychwanegodd Edward Jones, y Prifathro: "Mae Tŷ Ewenni yn sicr yn rhan o’n hysgol.  Mae’r adnewyddiadau diweddar wedi darparu amgylchedd dysgu ysgogol a gwell cyfleusterau.

“Yn ein Harolwg Estyn diweddar, cymeradwyodd yr arolygwyr yr amgylchedd dysgu cynnes, tawel, meithringar a gynigir i ddisgyblion Tŷ Ewenni, a’r staff gyda dealltwriaeth ragorol o anghenion disgyblion unigol a chanolbwyntio’n gryf ar gefnogi’r unigolion hynny i lwyddo.”  

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae’r gwelliannau i gyfleusterau Ysgol Gyfun Pencoed o fudd mawr i'r ysgol a’r gymuned, gyda’r grŵp pêl-rwyd lleol, Clwb Pêl-rwyd Pencoed Pegasus, yn cael budd o’r cyrtiau pêl-rwyd y tu hwnt i oriau’r ysgol, cymaint â’r disgyblion sy’n eu mwynhau yn ystod pob diwrnod ysgol.

“Mae’r gwaith hefyd wedi llwyddo i roi hwb i’r amgylchedd dysgu cyfan, yn cynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu canolig i gyflawni eu potensial.  Rydym yn ddiolchgar iawn o allu cynnal yr adnewyddiadau hyn, cefnogi’r staff - ased mwyaf gwerthfawr yr ysgol - i weithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol.”

Delweddau: Toiledau wedi’u hadnewyddu, Tŷ Ewenni gyda’r Cynghorydd Richard Williams, y Cynghorydd Melanie Evans a’r Cynghorydd Martyn Jones.

Chwilio A i Y