Prosiect gardd gymunedol Tŷ Pen y Bont yn addo dyfodol ffrwythlon
Dydd Iau 12 Hydref 2023
Roedd Medi 29 yn nodi agoriad ffurfiol prosiect cymunedol Tŷ Pen y Bont, menter sy'n cynnig digonedd o gyfleoedd i bawb sy'n cymryd rhan. Yn bresennol yn y lansiad oedd aelodau'r Senedd Huw Irranca-Davies a Sarah Murphy, yn ogystal â'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, a agorodd yr ardd yn swyddogol.