Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion

Croeso i ganolfan cyfryngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys newyddion diweddaraf o’r fwrdeistref sirol, a gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Cymuned  

Cyngor yn lansio prosiect cyflogaeth newydd

Mae Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yn fenter newydd a fydd yn cael ei chynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel bod y rhai sy’n chwilio am waith yn cael lleoliadau gwaith gyda thâl, gyda chyflogwyr o bob rhan o’r fwrdeistref sirol yn darparu’r lleoliadau hynny.

Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ystyried ac wedi cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltiad, yn dilyn yr ymatebion a gafwyd yn ystod ymgynghoriad 12 wythnos ar y strategaeth ddrafft.

Cyngor yn cymryd camau newydd i fynd i’r afael â galw digynsail am lety dros dro

Yn unol ag amcanion Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu dull newydd o weithio mewn perthynas â digartrefedd. Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo prynu Tai Amlfeddiannaeth (HMO), yn ogystal â pharhau gyda’r darparwyr llety presennol am gyfnod o hyd at 12 mis er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa lom digartrefedd ar draws y cyngor bwrdeistref.

Hafan naturiol i'w datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw

Drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a’r bartneriaeth rhwng Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Cymuned Llangrallo Uchaf, mae ardal chwarae newydd ar gyfer natur a’r gymuned ar fin cael ei datblygu ar gae chwarae Heol-y-Cyw.

Chwilio A i Y