£1.6m o gyllid yn helpu i ailgychwyn gwasanaethau bws gyda’r nos ar gyfer Cwm Llynfi.
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024
Mae llwybr bysus poblogaidd ar fin ailgychwyn ei deithiau gyda’r nos yn ystod y mis hwn yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyngor yn defnyddio rhan o Grant Rhwydwaith Bysus £1.6m i gefnogi First Cymru wrth gynnig teithiau ychwanegol ar wasanaeth Rhif 70 Pen-y-bont ar Ogwr i Gymmer.
Gan ddechrau ar ddydd llun 5 Awst 2024, bydd y gwasanaeth, sydd eisoes yn teithio o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr i Gymmer, ac yn ôl 10 gwaith y diwrnod, yn cynnig tair taith ychwanegol gyda’r nos rhwng dydd llun a dydd Sadwrn, ac un daith ychwanegol yn y bore o Gymmer i Ben-y-bont ar Ogwr am 7.45am.
Bydd gwasanaeth Rhif 70 yn gadael gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr am 6.40pm, 7.40pm ac 8.40pm, gyda theithiau’n dychwelyd yn gadael y cylch troi yng Nghymmer am 6.55pm a 7.55pm.
Daw’r newyddion hwn bron i flwyddyn wedi i deithiau gyda’r nos orfod cael eu gohirio gan nad oedd hi’n ymarferol yn ariannol i wneud hynny heb gymhorthdal tuag at y gost o ddarparu’r gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hyn yn newyddion gwych i bawb sy’n byw yng Nghwm Llynfi, ac yn sicr o gynnig gwasanaeth mwy hwylus i unrhyw un sydd angen teithio i Ben-y-bont ar Ogwr ac oddi yno, yn gynnar gyda’r nos.
“Yn dilyn ein cais llwyddiannus am arian o’r Grant Rhwydwaith Bysus yn gynharach eleni, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth ddyfarnu mwy na £1.6m i Ben-y-bont ar Ogwr i helpu i gefnogi llwybrau bysus, fel y gwasanaeth Rhif 70.”
Mae posib gweld manylion llawn ac amserlen y llwybr ar wefan First Cymru.