10K Porthcawl yn dychwelyd ddydd Sul yma
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Mehefin 2023
Mae trigolion a busnesau Porthcawl wedi bod yn paratoi ar gyfer dychweliad 10K Ogi Porthcawl y penwythnos hwn a fydd yn ddigwyddiad rhedeg mwyaf Cymru’r haf hwn.
Mae’r digwyddiad mawr, a ddechreuodd yn 2019, yn cael ei gynnal ddydd Sul 2 Gorffennaf ac mae disgwyl iddo ddenu miloedd o redwyr o ledled y DU. Mae’r bobl leol yn cael eu hannog hefyd i gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan.
Bydd cyfranogwyr yn cychwyn ac yn gorffen y tu allan i Bafiliwn y Grand hanesyddol ac yn mwynhau golygfeydd panoramig ar draws ardaloedd Traeth Coney, Bae Tywodlyd, Bae Trecco a Bae Newton wrth iddynt rasio. Bydd y rhedwyr hefyd yn mynd ar hyd Stryd John a thrwy ganol y dref gan wibio tua’r terfyn ar hyd y Promenâd.
Cynlluniwyd y cwrs gan gyfarwyddwr y ras a'r rhedwr marathon Olympaidd dwbl, Steve Brace, a gafodd ei fagu ym Mynydd Cynffig gerllaw.
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal, gan gynnwys rasys hwyl heb bwysau, ras plant bach ar gyfer plant sy’n rhedeg am y tro cyntaf a ras ‘herwyr y dyfodol’ ar gyfer athletwyr ifanc talentog a rhedwyr clwb iau.
Mae'r llwybr wedi ei ddylunio’n arbennig i amharu cyn lleied â phosibl ar drigolion a busnesau, ond i sicrhau bod y digwyddiad yn mynd rhagddo’n ddiogel, mae sawl ffordd yn cael eu cau dros dro yn ogystal â gwyriadau llwybr bysiau ar gyfer gwasanaethau X2, 63 a Stagecoach 172 – cewch ragor o fanylion drwy ymweld â www.firstgroup.com/south-west-wales ac www.stagecoachbus.com.
Cynghorir unrhyw un sy’n mynychu’r digwyddiad i archebu lle parcio o flaen llaw ar wefan swyddogol parcio’r digwyddiad. Nodwch nad oes modd gyrru drwy’r maes parcio i ollwng rhywun heb fod wedi archebu.
Mae map o’r ffyrdd sy’n cael eu cau a rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael ar wefan 10k Ogi Porthcawl.
Gan fy mod i’n ŵr lleol ac yn ymwneud â grwpiau rhedeg gerllaw a’r parkrun ym Mhorthcawl, y 10K Ogi Porthcawl yw fy hoff ddiwrnod o’r flwyddyn.
Mae’n wych gweld cymaint mae’r gymuned leol wedi croesawu’r digwyddiad a’r holl fudd a ddaw i’r ardal leol. Rydym yn disgwyl digon o ymwelwyr dros nos ac ymwelwyr ar y diwrnod ac rwy’n disgwyl i’r holl siopau, bariau, bwytai a chaffis i fod yn llawn o redwyr brynhawn Sul!
Dywedodd Steve Brace, Cyfarwyddwr y Râs Run 4 Wales a rhedwr Olympaidd: