Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

10K Ogi Porthcawl hynod boblogaidd yn dychwelyd y Sul hwn

Bydd 10K Ogi Porthcawl yn dychwelyd y penwythnos hwn (dydd Sul 7 Gorffennaf) a hoffem atgoffa’r preswylwyr y bydd rhai mesurau diogelwch ar waith, yn cynnwys dargyfeirio bysiau a chau rhai ffyrdd dros dro.

Mae’r ras 10K yn llawn ac anogir trigolion yr ardal i gefnogi pawb sy’n cymryd rhan. Bydd pobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn rhedeg ynddi.

Bydd y rhedwyr yn dechrau ac yn gorffen ger yr harbwr ar Bromenâd y Dwyrain a bydd modd iddynt fwynhau golygfeydd godidog o’r arfordir wrth iddynt rasio trwy ardaloedd fel Traeth Coney, Bae Tywodlyd a Bae Trecco. Hefyd, bydd y llwybr yn tywys y rhedwyr ar hyd Stryd John a thrwy ganol y dref, gan wibio tua’r terfyn ar hyd y promenâd heibio i’r Pafiliwn Mawr eiconig.

Gellir gweld map o’r ffyrdd a gaiff eu cau ar wefan 10K Porthcawl. Lluniwyd y llwybr yn benodol er mwyn achosi cyn lleied â phosibl o broblemau i breswylwyr a busnesau.

Ond er mwyn sicrhau y gellir bwrw ymlaen â’r digwyddiad yn ddiogel, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar gyfer gwasanaethau X2, 62 a Stagecoach 172 – cewch ragor o wybodaeth ar www.firstgroup.com/south-west-wales ac www.stagecoachbus.com. Cynghorir pobl a fydd yn mynychu’r digwyddiad i archebu lle parcio ymlaen llaw ar wefan parcio swyddogol y digwyddiad. Sylwer: ni fydd modd ichi yrru i’r maes parcio i ollwng rhywun heb drefnu lle ymlaen llaw.

Rydym wrth ein bodd bod ras 10K Ogi Porthcawl yn llawn eto eleni. Mae cyffro yn cyniwair yn y dref ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddiwrnod y ras.

Er nad oes lleoedd ar ôl yn y ras, mae yna gyfle o hyd i gymryd rhan a mwynhau’r awyrgylch cyfeillgar braf ar ddiwrnod y ras trwy wylio ac annog eich teulu a’ch cyfeillion. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i lan y môr Porthcawl ddydd Sul 7 Gorffennaf.

Yn ôl Steve Brace, Cyfarwyddwr Rasys Run 4 Wales:

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan swyddogol 10K Ogi Porthcawl.

Chwilio A i Y