Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ADY
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Dyma gynnig i sefydlu darpariaeth ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd. Er mwyn diwallu anghenion disgyblion sydd wedi cael diagnosis ASD, cynigir sefydlu canolfan adnoddau dysgu ar gyfer uchafswm o wyth disgybl.
Byddai’r CAD arfaethedig yn agor ar yr un pryd ag adeilad newydd yr ysgol.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn yr aelodau staff, rhieni, disgyblion, pobl â buddiant a’r corff llywodraethu, fel cam cyntaf y broses statudol. Os caiff y cynigion eu cefnogi, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod yr ymgynghoriad pryd rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynnig. | 6 Tachwedd 2018 i 17 Rhagfyr 2018 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. | 22 Ionawr 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghori ein gwefan. | 30 Ionawr 2019 |
Dogfennau
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
consultation@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643664
Cyfeiriad:
Y Swyddfeydd Dinesig,
Stryd Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.
Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.