Ymgynghoriad Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar gynnig a allai ddarparu cyfleusterau addysgol modern newydd yng ngorllewin y fwrdeistref sirol.
Mae'r cynnig yn cynnwys sefydlu ysgol newydd ym Mhlas Morlais yn lle Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol Gynradd Afon y Felin o 1 Medi 2023 ymlaen. Mae'r cynnig hefyd yn amlinellu sut gallai Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg Y Ferch O'r Sgêr ennill adeiladau newydd ac ehangu i safle presennol Ysgol Gynradd Corneli o 2 Medi 2024 ymlaen.
Darllen dogfen Ymgynghori Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr a llenwi'r ffurflen.
Adroddiad ymgynghoriad
Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, hysbysiad o benderfyniad (.PDF 273KB)
Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, Adroddiad am y gwrthwynebiadau (.PDF 308KB)
Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, Cynigion Trefniadaeth Ysgolion, Cwestiynau Cyffredin (.PDF 560KB)
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Cysylltu
Y Camau Nesaf
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod yr ymgynghoriad lle rydym yn croesawu eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*. | 25 Ionawr 2021 i 7 Mawrth 2021 |
Adroddiad Drafft yr Ymgynghoriad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. | 6 Ebrill 2021 |
Cyhoeddi Adroddiad Cymeradwy'r Ymgynghoriad ar wefan CBSP, copïau papur ar gael ar gais. | 12 Ebrill 2021 |
Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno iddo, cyhoeddir Hysbysiad Cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig yn ysgrifenedig. | 26 Ebrill 2021 |
Os nad oes gwrthwynebiad, gall y Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiad, anfonir Adroddiad Gwrthwynebiad i'r Cabinet i'w ystyried ac ar gyfer penderfyniad wedyn. Wedyn cyhoeddir yr adroddiad cymeradwy ar wefan CBSP a bydd copïau papur o'r adroddiad ar gael ar gais. |
9 Mehefin 2021 |
Gweithredu.
|
1 Medi 2023 (cyfrwng Saesneg) 2 Medi 2024 (Ysgol Y Ferch O’r Sgȇr) |
*Sylwer na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiad i'r cynigion. Dim ond yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus y gellir cofrestru gwrthwynebiad.