Ymgynghoriad terfyn cyflymder 20mya
Mae deddfwriaeth newydd gan Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol rhagosodedig yn lleihau o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.
Mae amcanion Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 fel a ganlyn:
- Lleihau nifer yr anafiadau ar y rhwydwaith ffyrdd.
- Amgylchedd gwell a mwy diogel sy’n annog mwy o bobl i feicio a cherdded ynghyd â llai o lygredd sŵn.
- Lleihau cyflymder cerbydau yn ein cymunedau.
Eithriadau arfaethedig
Rydym wedi amlygu rhannau o ffyrdd yn y cynlluniau isod sydd ar hyn o bryd yn destun terfyn cyflymder 30mya. O'u hasesu yn erbyn meini prawf ar gyfer eithriadau i'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, ystyrir eu bod yn bodloni'r meini prawf, a chynigir eu bod yn aros ar 30mya drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Cynigion ar gyfer eithriadau i 20mya adolygiad o ganlyniadau'r arolwg (.PDF, 1.02 MB)
Dweud eich dweud
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.