Ymgynghoriad Polisi Trwyddedu
Cynnig i fabwysiadu Asesiad o'r Effaith Gronnol ar Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Dan Ddeddf Drwyddedu 2003, mae gan y Cyngor, fel awdurdod trwyddedu, y pŵer i gyhoeddi asesiad o'r effaith gronnol bob tair blynedd.
Bydd yr asesiad o'r effaith yn cynorthwyo'r Cyngor i gyfyngu ar nifer y mathau o geisiadau trwydded sy'n cael eu cymeradwyo mewn ardaloedd lle mae tystiolaeth yn dangos bod nifer neu ddwysedd y safleoedd trwyddedig yn cael effaith negyddol ar ardal benodol.
Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar yr asesiad o'r effaith ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac yn croesawu safbwyntiau gan y cyhoedd, y sector lletygarwch a phartïon eraill sydd â diddordeb.
Dweud eich dweud
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.