Ymgynghoriad parciau a phafiliynau
Ers cyflwyno mesurau caledi, mae’r cyllid ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cael ei gwtogi’n sylweddol. Yn ystod y pedair blynedd nesaf mae disgwyl i ni wneud arbedion pellach gwerth £36.4m. Rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn am ddarparu’r canlynol:
- cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau chwaraeon parciau
- parcdir sy’n cael ei gynnal ac ardaloedd lle mae’r glaswellt yn cael ei dorri
- caeau chwarae plant a mannau chwarae
Mae tair adran ar gael i chi eu llenwi am bob un o’r uchod a hefyd adran ‘Amdanoch Chi’.
Bydd eich safbwyntiau chi’n ein helpu ni i wneud penderfyniadau am gaeau chwarae a mannau chwarae, parcdir sy’n cael ei gynnal, torri glaswellt, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, parciau a phafiliynau chwaraeon.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion. | 17 Ebrill 2019 tan 10 Gorffennaf 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. | Medi 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. | Medi 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:
- yr arolwg ar-lein
- y ffurflen ar-lein hygyrch ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
- yr arolwg papur
- y fersiwn papur print bras
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Adroddiad yr ymgynghoriad
Nawr bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, gallwch weld Adroddiad i’r Cabinet am ei ganfyddiadau ym mhwynt 9 yn nhrosolwg cyfarfod y Cabinet.