Ymgynghoriad Heneiddio’n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Rydym yn awyddus i glywed barn pobl leol er mwyn cefnogi datblygiad ein rhaglen ‘Heneiddio’n Dda’.
Rydym yn cydnabod bod gan bobl sydd dros eu 50 ac yn wir hŷn lawer i gynnig ein bwrdeistref sirol a’i chymunedau.
Wrth i bobl heneiddio, hoffem wybod a yw eu bywydau’n cynnal ymdeimlad o werth, synnwyr a phwrpas - wrth gyfrannu at eu teuluoedd, cymunedau a’r economi leol.
Rydym yn awyddus i wybod a all pobl hŷn barhau i wneud y pethau sy’n bwysig iddynt a beth allai’r pethau hynny fod.
Drwy gefnogi’r ymgynghoriad hwn, byddwch yn ein cynorthwyo ni i wella bywydau pobl hŷn am flynyddoedd i ddod ac i wneud Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw i bawb.
Bydd yr adborth o’r cwestiynau hyn yn ein cynorthwyo ni i ddeall sut mae pethau’n teimlo go iawn ar y tir a lle sydd angen hoelio sylw arnynt. Diolch am gymryd yr amser i wella bywydau pawb, yn arbennig pobl hŷn.
Lleisiwch eich barn
I leisio’ch barn, cwblhewch ein hymgynghoriad ar-lein.
Dyddiad cau: 06 Ionawr 2023