Ymgynghoriad Digartrefedd 2019
Crynodeb
Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2018, cynhaliwyd adolygiad digartrefedd statudol cynhwysfawr gennym. Fel ymateb i’r adolygiad, nododd y Cyngor beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a ble mae eisiau bod erbyn 2022. Mae negeseuon allweddol yr adolygiad i’w gweld yn y Strategaeth Digartrefedd. Hefyd, mae’r strategaeth yn amlinellu sawl maes gwaith sy’n cael ei ddilyn ar hyn o bryd er mwyn cyflawni ei nodau a’i amcanion erbyn 2022, yn ogystal ag unrhyw waith angenrheidiol pellach.
Mae’r strategaeth yn amlinellu’r canlynol:
- y darlun presennol o ran digartrefedd yn y fwrdeistref sirol
- ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nawr
- beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud yn dda
- gweledigaeth ar gyfer ble mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau bod
Adroddir ar y strategaeth a’i diweddaru ymhen pedair blynedd i ystyried unrhyw wybodaeth newydd, ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Bydd hefyd yn datgan unrhyw amcanion a nodau newydd a nodwyd ac y bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn eu cylch efallai.
Dyddiad dechrau'r ymgynghoriad | 12 Ebrill 2019 |
---|---|
Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad | 24 Mai 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i'r Cabinet ar ei ganlyniadau | Gorffennaf 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghoriadau ein gwefan ni | Gorffennaf 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch fynegi eich barn drwy gwblhau un o’r canlynol:
Cyswllt
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.