Ymgynghoriad cymorthdaliadau i fysiau 2019 i 2020
Rydym yn cefnogi rhai gwasanaethau bws rhanbarthol a lleol drwy roi cymhorthdal i lwybrau nad ydynt yn ymarferol yn fasnachol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithredu ar lwybrau fel bod y bobl sy’n byw ar eu hyd yn gallu cael mynediad i gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.
Yn 2018/19, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a gofynnwyd i’r trigolion am eu barn am gymorthdaliadau i fysiau a chael gwared ar rai gwasanaethau. Y canlyniad oedd y byddem yn parhau i roi cymhorthdal llawn i dri llwybr bws lleol poblogaidd am 12 mis pellach. Fodd bynnag, cafodd y cyllid ar gyfer dau lwybr oedd yn derbyn cymhorthdal llawn, a phedwar llwybr oedd yn derbyn cymhorthdal rhannol, ei ddileu.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn penderfyniad gan y cabinet ar yr adroddiad a gyflwynwyd ar 18 Medi 2018. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig cael gwared ar weddill y cymhorthdal i fysiau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae hyn yn rhan o arbedion arfaethedig y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2019-20 i 2022-23.
O ganlyniad i benderfyniad y cabinet, gallai’r gwasanaethau bws yn y tabl isod gael eu heffeithio gan y cynnig hwn:
Rhif y gwasanaeth | Gweithredwr | Llwybr | Cyllid llawn neu rannol |
---|---|---|---|
67 | First Cymru | Pen-y-bont ar Ogwr i Abercynffig drwy Ben-y-Fai (Llun i Sadwrn) | Cyllid rhannol |
37 | Easyway | Stad Parc Maesteg (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) | Cyllid llawn |
73 | First Cymru | Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw, (gyda’r nos, Llun i Sadwrn) | Cyllid rhannol |
76 | First Cymru | Pen-y-bont ar Ogwr i’r Betws, Gwyriad Vale View (Llun i Sadwrn) | Cyllid rhannol |
51 | Easyway | Pen-y-bont ar Ogwr i Heol Oaklands, Pen-y-bont ar Ogwr, drwy Stryd Parc (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) | Cyllid llawn |
803 | Easyway | Danygraig i Borthcawl (Llun i Sadwrn) | Cyllid llawn |
61 | Peyton Travel | Cylch Nottage i Borthcawl (Llun i Sadwrn) | Cyllid llawn |
16 | Easyway | Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy Heol-y-Myndd a Braich-y-cymer (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) | Cyllid llawn |
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod yr ymgynghoriad pryd rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynnig. | 17 Rhagfyr 2018 i 10 Mawrth 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. | 16 Ebrill 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghori ein gwefan | 24 Ebrill 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch fynegi eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cyswllt
Y Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu
Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.
Dogfennau
- Adroddiad i'r Cabinet, Rhesymoli Gwasanaethau Bws a Gefnogir 2018 i 2019 (PDF 229Kb)
- Amserlen (PDF 494Kb)