Ymgynghoriad ar y polisi trwyddedu
Dyma’r amcanion trwyddedu:
- atal troseddu ac anhrefn
- atal niwsans cyhoeddus
- hybu diogelwch y cyhoedd
- amddiffyn plant rhag niwed
Efallai y bydd niwsans neu anhrefn difrifol y tu allan i eiddo mewn ardaloedd lle ceir nifer, math neu ddwysedd uchel neu eithriadol o eiddo trwyddedig. Hefyd gall dwyseddau mawr o eiddo effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sbwriel a niwsans cyhoeddus. Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i ni gynnal polisi arbennig yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a chyflwynwyd tystiolaeth i gefnogi’r cynnig hwn. Nid yw Heddlu De Cymru wedi gofyn i ni newid y strydoedd sy’n dod o dan y polisi cyfredol.
Os caiff ei fabwysiadu, mae gan yr asesiad effaith cronnol newydd botensial i effeithio ar ddyfarnu trwyddedau newydd ar gyfer y canlynol:
- tafarndai
- bwytai
- lleoliadau adloniant
- lleoliadau diwylliannol
- clybiau nos
- tecawês bwyd hwyr y nos
- siopau gwerthu alcohol
- eiddo clwb
Ni fydd yn berthnasol i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion. | 17 Mehefin 2019 tan 8 Medi 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. | 22 Hydref 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. | Hydref 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:
- yr arolwg ar-lein
- y ffurflen ar-lein hygyrch ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
- yr arolwg papur
- y fersiwn papur print bras
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Dogfennau
- Ymgynghoriad Polisi Trwyddedu Dogfen Ymgynghori (PDF 308Kb)
- Datganiad Polisi Trwyddedu Deddf Trwyddedu 2003 (PDF 385Kb)
- Adolygiad o’r polisi Effaith Gronnol (PDF 395Kb)