Ymgynghoriad Ar Wasanaethau Bws A Gefnogir yn 2018/19
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Gweler adroddiad y Cabinet, gan gynnwys yr adroddiad ymgynghori a sut rydym wedi ymateb.
Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yn sgil cynnig i gyfiawnhau gwasanaethau bws a gefnogir yn y fwrdeistref sirol er mwyn ymdopi a lleihad arfaethedig o £188,000 yn y gyllideb yn 2018/19 fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol drwy roi cymhorthdal ar gyfer rhai llwybrau bws nad ydyn nhw’n talu eu ffordd yn fasnachol. Mae’r bysiau sy’n teithio ar hyd llwybrau penodol hyn yn caniatáu i drigolion sy’n byw o fewn cyrraedd iddynt deithio i leoliadau gwaith, addysg, gofal iechyd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.
O’r herwydd, cyflwynwyd adroddiad Cabinet ar 3 Hydref 2017, a oedd yn nodi’r gwasanaethau bws y mae angen eu had-drefnu. Roedd yr adroddiad yn defnyddio methodoleg a fabwysiadwyd gan awdurdod cyfagos ac yn ystyried y meini prawf canlynol:
- Nifer y teithwyr fesul taith.
- Maint y cymhorthdal ar gyfer pob teithiwr.
- Dim gwasanaethau eraill ar gael.
- Y tebygolrwydd o dynnu’n ôl gwasanaethau bws masnachol cysylltiedig.
- Y golled mewn teithiau i weithwyr shifft.
- Y golled mewn teithiau ar gyfer gofal iechyd ac ymweliadau ysbytai.
- Y golled mewn teithiau ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Mae’r newidiadau arfaethedig i’r gwasanaethau bws i’w gweld yma
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 29 Ionawr and cau ar 26 Mawrth 2018. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol;
- Ar-lein: Cliciwch yma
- Copi papur: Clicwch Yma
- E-bost: Consultation@bridgend.gov.uk
- Ffon: (01656) 643664
- Post: Ymgynghoriad Ar Wasanaethau Bws A Gefnogir yn 2018/19, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.