Ymgynghoriad ar oedran tacsi a pholisi profi
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.
Trosolwg
Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael sylwadau ar y cynigion i newid y canllawiau ar y polisi ar gyfer oed cerbydau hacnai a cherbydau i’w llogi’n breifat a’r trefniadau archwilio. Gofynnir hefyd am sylwadau ar wasanaethau tacsi i bobl anabl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cefndir a gwybodaeth
u Yn ôl y polisi presennol, rhaid i bob cerbyd hacnai a phob cerbyd i’w logi’n breifat fod yn newydd pan gânt eu trwyddedu am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd, mae rhai eithriadau’n ymwneud â cherbydau i’w llogi’n breifat, cerbydau sy’n gallu cludo cadeiriau olwyn neu gerbydau arbenigol.
u Ar hyn o bryd, ar ôl archwilio’r cerbydau, mae’r Cyngor yn rhoi tystysgrifau i eithrio cerbydau rhag cael prawf MOT.
Y cynnig
Bydd y cynnig hwn yn effeithio’n bennaf ar y rhai sy’n gwneud cais am drwydded newydd ar gyfer cerbyd hacnai neu gerbyd i’w logi’n breifat. Mae’n cynnig newid y polisi presennol yn ymwneud ag oed cerbydau fel a ganlyn:
Caiff cerbydau eu rhannu’n ddau ddosbarth: Dosbarth 1, sef cerbydau salŵn, amlbwrpas safonol (MPV) neu gerbydau sy’n gallu cludo cadair olwyn heb lifft cadair olwyn awtomataidd, a Dosbarth 2, sef cerbydau sy’n gallu cludo cadair olwyn ac sydd â lifft cadair olwyn awtomataidd.
Cynigir newid y polisi presennol ar gyfer oed cerbydau hacnai a cherbydau i’w llogi’n breifat fel bod yn rhaid i gerbydau Dosbarth 1 fod yn llai na 5 mlwydd oed pan gânt eu cyflwyno i’w trwyddedu am y tro cyntaf, ac i gerbydau Dosbarth 2 fod yn llai na 10 oed pan gânt eu cyflwyno i’w trwyddedu am y tro cyntaf.
Yn ogystal â hyn, bwriedir newid nifer yr archwiliadau a gynhelir bob blwyddyn:
Cynigir newid y polisi fel bod cerbydau hyd at 10 oed yn cael eu harchwilio ddwywaith y flwyddyn a bod cerbydau 10 oed a hŷn yn cael eu harchwilio dair gwaith y flwyddyn.
Yn ogystal â hyn, cynigir bod y drefn archwilio’n newid fel a ganlyn:
caiff cerbydau hacnai a cherbydau i’w llogi’n breifat eu harchwilio’n unol â’r drefn MOT a weinyddir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA). Ynghyd â’r prawf MOT, cynigir hefyd ei gwneud yn ofynnol cynnal prawf cydymffurfio ychwanegol, yn unol â’r Safonau Arolygu Cenedlaethol ar gyfer Cerbydau Hacnai a Cherbydau i’w Llogi’n Breifat, a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, sy’n cynnwys eitemau na fyddent yn cael eu cynnwys mewn prawf MOT (fel golau ar do tacsi).
Mae copi llawn o’r, Cynigion i Ymgynghori Ynghylch Newid y Canllawiau ar y Polisi ar gyfer Oed Cerbydau Hacnai a Cherbydau i’w Llogi’n Breifat, a’r Polisïau Archwilio, ar gael yma.
Sut i ymateb
Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 18 Rhagyr 2017 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2018.
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.