Ymgynghoriad ar gosbau am droseddau amgylcheddol
Crynodeb
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn y trigolion am y Polisi Gorfodi diwygiedig ar gyfer Rhoi Hysbysiadau Cosb Penodol am Droseddau Amgylcheddol. I sicrhau bod gennym bolisi cadarn i ddelio â gorfodi cosbau am droseddau amgylcheddol, gwnaed penderfyniad i ddiwygio’r polisi gorfodi cyfredol a sefydlwyd yn 2007. Y nod yw gwneud y polisi’n addas i bwrpas a chynnwys deddfwriaeth gyfredol.
Gall Cosbau Penodol ddarparu ffordd effeithiol a gweladwy o ymateb i droseddau amgylcheddol lefel isel fel gollwng sbwriel, baw cŵn, taflu sbwriel yn anghyfreithlon a rhai problemau gwastraff. Gallant ddarparu opsiwn tecach a mwy cost effeithlon o gymharu ag erlyn troseddwyr yn y Llys.
Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
Mae polisïau gorfodi’n wahanol mewn gwahanol awdurdodau lleol. Yn y gorffennol mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynd ati i addysgu trigolion a rhybuddio troseddwyr, cyn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Penodol (HCP). Mae hyn wedi bod yn effeithiol ac mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau wedi cael canlyniadau positif o’u datrys fel hyn.
Mae’r polisi diwygedig:
- yn cynnwys troseddau cosb ychwanegol, sef:
- ‘methu cydymffurfio â gorchymyn gwarchod gofod cyhoeddus’
- ‘methu cydymffurfio â’r ddyletswydd o ofal mewn perthynas â gwastraff tai’
- yn amlinellu cyfarwyddyd perthnasol i lunio trefniadau gyda chontractwyr/trydydd partïon ar gyfer rhoi HCP
- yn cynnwys cynllun gostyngiad am daliad cynnar
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad dechrau'r ymgynghoriad | 10 Mehefin 2019 |
Dyddiad gorffen yr ymgynghoriad | 1 Medi 2019 |
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich safbwyntiau drwy lenwi’r canlynol:
Cysylltu
Y Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu
Mae fformatau eraill ar gael ar gais.
Cofiwch fod posib i chi leisio eich barn o hyd am wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.