Ymgynghoriad ar Dai Gwag ac Ail Gartrefi
Ers 1 Ebrill 2017, mae Cynghorau yng Nghymru wedi gallu codi symiau uwch (premiwm) o hyd at 100% ar ben graddfa gyffredin y dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir. Gwnaed y newidiadau deddfwriaethol gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac mae'r pwerau a roddwyd i Gynghorau yn ddiamod. Penderfyniad pob cyngor felly yw a ydynt am godi premiwm ar ail gartrefi neu dai gwag tymor hir (neu'r ddau), a rhaid i’r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn.
Bwriad y rhyddid a roddwyd i'r Cynghorau i godi premiwm yw rhoi arf i'w cynorthwyo i:
- ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy drwy ddefnyddio cartrefi fu'n wag am dymor hir;
a
- Cynorthwyo Cynghorau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Mae'r Cyngor yn cynnig:
Cyflwyno Premiwm Treth Gyngor 100% ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi sydd wedi bob yn wag am fwy na 12 mis. Bydd y gost bremiwm hon yn daladwy o 1 Ebrill 2023 ar eiddo sy'n bodloni'r meini prawf sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis cyn y dyddiad hwn. Bydd lefel y premiwm wedyn yn cynyddu i 200% ar gyfer yr eiddo hynny ar ôl cyfnod o 2 flynedd.
Mae yna eithriadau. Ni ellir codi premiwm ar annedd sy'n syrthio i un o'r saith Dosbarthiad Anheddau a restrir isod:
Dosbarth |
Diffiniad |
Cymhwysiad |
Dosbarth 1 |
Anheddau sydd ar y farchnad i'w gwerthu - cyfnod cyfyngedig o flwyddyn. |
Ail gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir
|
Dosbarth 2 |
Anheddau sydd ar y farchnad i'w gosod - cyfnod cyfyngedig o flwyddyn. |
|
Dosbarth 3 |
Rhandai sy'n ffurfio rhan o'r prif annedd, neu sy'n rhan ohono |
|
Dosbarth 4 |
Anheddau a fyddai'n brif breswylfa neu'r unig breswylfa i rywun pe na baent yn preswylio mewn llety'r Lluoedd Arfog |
|
Dosbarth 5 |
Angorfeydd cychod a lleiniau carafanau sy'n cael eu defnyddio |
Ail Gartrefi
|
Dosbarth 6 |
Cartrefi tymhorol lle mae byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn wedi'i wahardd |
|
Dosbarth 7 |
Anheddau sy'n ymwneud â swydd |
Dweud eich dweud
I ddweud eich dweud, llenwch ffurflen ymgynghori ar-lein
Dyddiad cau: Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022