Ymgynghoriad amcanion Strategaeth Ddrafft y Gymraeg
Rydym yn gofyn am farn trigolion, ein gweithlu, aelodau etholedig a rhanddeiliaid ar Amcanion arfaethedig y Gymraeg ar gyfer 2021 i 2026.
Defnyddir canlyniadau'r ymgynghoriad hwn fel sail i’n Strategaeth Iaith Gymraeg derfynol 2021 i 2026, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2021.
Amcanion Strategaeth Ddrafft y Gymraeg
Mae amcanion Strategaeth Ddrafft y Gymraeg yn seiliedig ar y themâu cyffredinol canlynol:
Amcan un: Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y gweithlu
Amcan dau: Cynyddu ymwybyddiaeth o Safonau'r Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Amcan tri: Cefnogi a hyrwyddo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP)
Amcan pedwar: Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a’i diwylliant mewn elusennau a busnesau canol trefi
Amcan pump: Annog cyfranogiad ac ymgysylltiad statudol drwy gyfrwng y Gymraeg
Amcan chwech: Gweithredu’r lleoliadau blynyddoedd cynnar newydd yn y Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r amcanion hyn? Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am yr amcanion neu'r cynigion hyn ar gyfer amcanion eraill? Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad i leisio eich barn.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ddogfen ymgynghori amcanion Strategaeth Ddrafft y Gymraeg (.PDF 443KB)
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.