Ymgynghoriad am Doiledau Cyhoeddus
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau
Gweler adroddiad y Cabinet, gan gynnwys yr adroddiad ymgynghori a sut rydym wedi ymateb isod.
Dogfennau perthnasol
Cefndir
Yn dilyn gostyngiadau parhaus mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gorfod ystyried y ffordd y mae’n gweithio, yn darparu mwy o wasanaethau mewn partneriaeth a gostwng rhai gwasanaethau er mwyn ymdopi â llai.
Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2015 yn adolygu ein toiledau cyhoeddus. Fel canlyniad, lleihaodd y nifer o doiledau yn ein canolau trefi o naw i chwech a chaewyd troethfeydd. Mae cyfleusterau i’r anabl yn y toiledau cyhoeddus sydd yn weddill a maent yn cael eu glanhau a’u cadw yn rheolaidd.
Cytunwyd mewn cyfarfod Cabinet ar 3 Hydref 2017 y byddem yn ymgymryd ag adolygiad pellach am ein toiledau cyhoeddus a hoffem gael eich barn chi am nifer o faterion yn perthyn i’r darpariaeth barhaus y gwasanaeth hwn.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn ni’n defnyddio’r barnau hyn i’n helpu yn gwneud penderfyniadau am sut fydd darpariaeth y toiledau cyhoeddus ym meddiant y cyngor, ar draws y sir, yn cael eu gweithredu yn y dyfodol.
Y sefyllfa bresennol
Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn gyfrifol am chwech thoiled cyhoeddus. Mae’r toiledau yn cael eu staffio gan bedwar gofalwr sy’n gweithio ar system rota yn agor, cau a glanhau’r toiledau yn rheolaidd.
Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) y Cyngor yn bwriadu gostwng y gyllideb ar gael i’r gwasanaeth sy’n gyfrifol am doiledau cyhoeddus ar draws y sir yn fwy.
Mae dau doiled cyhoeddus yng nghanol tref Ben-y-bont ar Ogwr, mae tri thoiled cyhoeddus yng nghanol tref Porthcawl, ac mae un toiled cyhoeddus yn Maesteg. Mae rhain yn debyg iawn i ganolau trefi eraill megis Pontypridd lle mae dau doiled cyhoeddus a Chastell Nedd lle mae un toiled cyhoeddus.
Cliciwch yma am fanylion y darpariaeth bresennol mewn trefi.
Cynlluniau Cysur
Ailgyflwynwyd y cynllun cysur gan y Cyngor fel rhan o’i adolygiad blaenorol y darpariaeth toiledau cyhoeddus yn y sir. Mae grantiau bach (hyd at £500 y flwyddyn) ar gael i fusnesau lleol fel rhan o’r cynllun hwn, am ganiatáu i aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau.
Mae’r cynllun cysur hwn ar gael ar draws y sir a gwna’r cynllun ddarpariaeth am gael toiledau cyhoeddus sy’n hygyrch, diogel a glan, mewn lleoliadau cyfleus ar gyfer trigolion ac ymwelwyr yn ogystal â’r cyfleusterau ym meddiant y cyngor.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 7 Chwefror and cau ar 4 Ebrill 2018. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol;
- Ar-lein: Cliciwch yma
- Copi papur: Clicwch Yma
- E-bost: Consultation@bridgend.gov.uk
- Ffon: (01656) 643664
- Post: Ymgynghoriad am Doiledau Cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.