Ymgynghoriad adolygu teithio dysgwyr
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau posib i drefniadau teithio ar gyfer myfyrwyr ysgol a choleg. Fel rhan o hynny, rydym eisiau gwybod sut bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i Bolisi Cludiant Cartref i’r Ysgol/Coleg yn effeithio arnoch chi a’ch teulu.
Sail yr ymgynghoriad
Rhaid i ni arbed £35.2 miliwn rhwng 2019 a 2023. Mae’r toriadau hyn yn golygu bod rhaid i ni adolygu ein holl wasanaethau, gan gynnwys a oes modd i ni ddal ati i ddarparu mwy o gludiant i ysgolion na sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Ar hyn o bryd, dim ond teithio am ddim i ddysgwyr sydd â hawl i hynny sydd raid i ni ei ddarparu. Mae’r holl gludiant arall yn ddewisol ac mae dogfen yr ymgynghoriad isod yn rhoi mwy o fanylion.
Ymateb i’r ymgynghoriad
- Llenwi’r arolwg ar-lein
- Llenwi fersiwn print mawr o’r arolwg ar-lein
- Lawrlwytho arolwg yr ymgynghoriad
- Lawrlwytho fersiwn print mawr o arolwg yr ymgynghoriad
Os ydych chi’n ateb drwy’r post, defnyddiwch y cyfeiriad isod.
Cysylltu:
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
I fynychu un o’r digwyddiadau ymgynghori isod, archebwch le gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Fel dewis arall, anfonwch e-bost neu ffoniwch ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Dyddiadau’r ymgynghoriad
Lleoliad | Amser | Dyddiad |
---|---|---|
Ysgol Gyfun Pencoed | 6:00pm | Dydd Llun 11 Tachwedd 2019 |
Ysgol Maesteg | 6:00pm | Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019 |
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath | 6:00pm | Dydd Llun 18 Tachwedd 2019 |
Ysgol Gyfun Cynffig | 6:00pm | Dydd Mercher 19 Tachwedd 2019 |
Ysgol Brynteg | 6:00pm | Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | 6:00pm | Dydd Iau 21 Tachwedd 2019 |
Ysgol Gyfun Bryntirion | 6:00pm | Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019 |
Ysgol Gyfun Porthcawl | 6:00pm | Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019 |
Coleg Cymunedol y Dderwen | 6:00pm | Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019 |
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Campws Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr | 6:00pm | Dydd Iau 5 Rhagfyr 2019 |
Dyddiadau pwysig yr ymgynghoriad
Digwyddiad | Dyddiad |
---|---|
Yr ymgynghoriad yn dod i ben | 5 Ionawr 2020 |
Dyddiad gwerthredu arfaethedig ar gyfer y polisi newydd | Medi 2021 |