Ymgynghori ar orchymyn gwarchod gofod cyhoeddus
Rydym eisiau eich barn ar gynigion i greu gorchmynion Gwarchod Gofod Cyhoeddus (PSPO) i fynd i’r afael â baw cŵn a phroblemau eraill cysylltiedig â chŵn.
Rydym yn cynnig cyflwyno PSPO. Mae ganddo botensial i greu cyfyngiadau a rheolau ar gyfer perchnogion cŵn, sy’n cynnwys y canlynol:
- cynnig un ar faw cŵn, sy’n berthnasol i bob lle cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- cynnig dau ar symud baw, sy’n dweud bod rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y ci fod â bag neu ddull addas arall o fynd â’r baw gydag ef
- cynnig tri ar ‘gŵn ar dennyn drwy gyfarwyddyd’, sy’n berthnasol i bob lle cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Amserlen yr ymgynghoriad
Cam ymgynghori | Dyddiad |
---|---|
Arolwg yn fyw | 5 Rhagfyr 2018 |
Arolwg yn cau | 26 Chwefror 2019 |
Adroddiad i'r cabinet | 16 Ebrill 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb isod neu lenwi’r arolwg ar-lein yn:
- y fersiwn papur
- y ffurflen ar-lein ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
- y fersiwn papur print bras
- y ffurflen ar-lein hygyrch ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
consultation@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643664
Cyfeiriad:
Y Swyddfeydd Dinesig,
Stryd Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.