Y potensial i ad-drefnu’r ddarpariaeth ôl-16
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd safbwyntiau ar y potensial i ad-drefnu addysg ôl-16 ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Y rheswm dros y newid hwn yw agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru 2011. Ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd Achos Amlinellol Strategol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn cyflwyno cynnig ar gyfer model cydweithredol i gyflwyno’r ddarpariaeth ôl-16 ledled y sir. Yn y model hwn, roedd y chweched dosbarth yn cael ei gadw mewn ysgolion ac yn cydweithredu â’i gilydd a gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.
Comisiynwyd adolygiad o’r ddarpariaeth ôl-16 hon yn 2013 a lluniwyd adroddiad. Roedd yn nodi nad oedd y cynnydd cyffredinol yn ddigon cyflym i fodloni’r amgylchedd sy’n newid mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
Roedd yr amgylchedd sy’n newid yn cynnwys y canlynol:
- amgylchiadau ariannol llymach
- grwpiau llai o ieuenctid 16 i 18 oed
- newidiadau i grantiau Llywodraeth Cymru a’u lleihau
- colli pynciau
- llai o fyfyrwyr yn dilyn cyrsiau cydweithredol yn ystod y dydd
- cyfradd y gwella perfformiad mewn arholiadau’n arafu
Sefydlwyd Bwrdd Gweithredol Ôl-16 gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ym mis Mehefin 2016 i adolygu’r ddarpariaeth ôl-16. Ym mis Hydref 2017 a mis Ebrill 2018, cyflwynodd y bwrdd argymhellion i’r Cabinet ar newidiadau i’r ddarpariaeth 16-18.
Ym mis Ebrill 2018, cymeradwyodd y Cabinet ymgynghoriad cyhoeddus.
Lleoliad | Ar gyfer pwy mae’r cyfarfod | Dyddiad | Amser |
---|---|---|---|
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath | Cyngor Ysgol | 6 Mawrth 2019 | 9.00am |
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath | Staff a rhieni | 6 Mawrth 2019 | 5.00pm |
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Ysgol Brynteg | Cyngor Ysgol | 20 February 2019 | 9.00am |
Ysgol Brynteg | Staff a rhieni | 20 February 2019 | 5.00pm |
Ysgol Brynteg | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Ysgol Gyfun Bryntirion | Cyngor Ysgol | 11 February 2019 | 9.00am |
Ysgol Gyfun Bryntirion | Staff a rhieni | 11 February 2019 | 5.00pm |
Ysgol Gyfun Bryntirion | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Coleg Communedol Y Dderwen | Cyngor Ysgol | 19 February 2019 | 9.00am |
Coleg Communedol Y Dderwen | Staff a rhieni | 19 February 2019 | 5.00pm |
Coleg Communedol Y Dderwen | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Ysgol Gyfun Cynffig | Cyngor Ysgol | 29 Ionawr 2019 | 9.00am |
Ysgol Gyfun Cynffig | Staff a rhieni | 29 Ionawr 2019 | 5.00pm |
Ysgol Gyfun Cynffig | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Ysgol Maesteg | Cyngor Ysgol | 14 February 2019 | 9.00am |
Ysgol Maesteg | Staff a rhieni | 14 February 2019 | 5.00pm |
Ysgol Maesteg | Corff llywodraethu | i’w gadarnhau | i’w gadarnhau |
Ysgol Gyfun Pencoed | Cyngor Ysgol | 21 Ionawr 2019 | 9.00am |
Ysgol Gyfun Porthcawl | Cyngor Ysgol | 21 February 2019 | 9.00am |
Ysgol Gyfun Porthcawl | Staff a rhieni | 21 February 2019 | 5.00pm |
Ysgol Gyfun Porthcawl | Corff llywodraethu | 21 February 2019 | i’w gadarnhau |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | Cyngor Ysgol | 12 February 2019 | 9.00am |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | Staff a rhieni | 7 February 2019 | 5.00pm |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | Corff llywodraethu | 12 February 2019 | i’w gadarnhau |
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion. | 7 Rhagfyr 2018 tan 13 Mawrth 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. | 16 Ebrill 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. | 24 Ebril 2019 |
Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:
- yr arolwg ar-lein
- yr arolwg papur
- y fersiwn papur print bras
- y ffurflen ar-lein hygyrch ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
Dogfennau
- Dogfen ymgynghori (PDF 1373Kb)