Strategaeth Garbon Sero Net
Darlun cyffredinol
Fel sefydliad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i'r targed Sero Net 2030 ac yn cydnabod ei rol arweiniol i alluogi a hwyluso camau gweithredu Sero Net ehangach ar gyfer busnesau a chymunedau'r sir.
Datganodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) ei argyfwng hinsawdd ei hun ym mis Mehefin 2020, a sefydlodd ei raglen Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd. Mae'r rhaglen hon yn ymrwymo i gyflawni allyriadau carbon Sero Net erbyn 2030 ar draws holl weithrediadau'r Cyngor. Strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr ("Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr) yw'r cam cychwynnol wrth gyflawni'r ymrwymiad hwn. Yn bwysig, nid y Strategaeth fydd yr unig yrrwr ar gyfer Sero Net. Bydd yn rhan hanfodol o Gynllun Corfforaethol a Chynllun Llesiant y Cyngor, a bydd polisoau, strategaethau a chynlluniau parhaus yn adlewyrchu'r ymrwymiad i gyrraedd Sero Net. Bydd hyn yn sicrhau bod y sefydliad cyfan yn ei groesawu.
Yn ddiweddar, cyfrifodd BCBC ei ᅯl Troed Carbon i fod yn 90,241 (19/20) y flwyddyn. Tasg y Cyngor yw lleihau ei allyriadau carbon - yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol a thrwy gadwyni cyflenwi - wrth hefyd gynyddu lefelau atafaelu carbon drwy weithgareddau ac asedau'r Cyngor
Lleisio eich barn
I leisio eich barn, llenwch y ffurflen ymateb ar-lein:
Mae fformatau amgen hefyd ar gael ar gais.
Dyddiad cau: 30 Awst 2022
Os ydych yn cael trafferth wrth geisio defnyddio neu gwblhau’r arolwg hwn, cysylltwch â’r tîm Ymgynghori drwy e-bost: consultation@bridgend.gov.uk neu ffoniwch: 01656 643664.