Newidiadau polisi arfaethedig ar godi tâl am ofal a chymorth
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.
Dogfennau cysylltiedig
Darlun cyffredinol
Mae'r Cyngor yn adolygu ei bolisi presennol ar godi tâl am wasanaethau gofal dibreswyl a ffurfioli polisi codi tâl am wasanaethau gofal preswyl ers cyflwyno'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn eich gwahodd chi i rannu eich barn am y ffordd y mae'r Cyngor yn codi tâl am wasanaethau gofal preswyl ac yn adolygu ei bolisi ar gyfer gwasanaethau gofal dibreswyl tra'n parhau i fod yn deg â defnyddwyr ein gwasanaethau yn ystod yr amser ariannol anodd hwn.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2016 and cau ar 23 Chwefror 2017. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:
Cyswllt:
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Ymgynghoriad
Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.
Camau | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad terfyn ar gyfer ymateb | 23 Chwefror 2017 |
Cyhoeddi’r adroddiad terfynol | 13 Mawrth 2017 |
Cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad | 28 Mawrth 2017 |
Dyddiad gweithredu posibl | 10 Ebrill 2017 |
Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.