Meddiannu Tir Porthcawl
Darlun cyffredinol
Ar 20 Gorffennaf 2021, gwnaeth Cabinet y Cyngor benderfyniad “mewn egwyddor” i feddiannu o tua 19.84 hectar o dir ym Mae Sandy a Pharc Griffin at ddefnyddiau amgen, er mwyn adfywio glannau Porthcawl yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Strategaeth Creu Lleoedd a gymeradwywyd yn ddiweddar. Cyn meddiannu’r tir yn ffurfiol, mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i feddiannu’r tir ac ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd cyn dod i benderfyniad terfynol.
Mae copi o'r hysbysiad ffurfiol wedi'i gyhoeddi yn y papur newydd lleol yn ogystal â chopïau'n cael eu harddangos ar y safle. Yn ogystal, gellir dod o hyd i gopi o’r hysbysiad a’r cynllun sy’n nodi’r tir sy’n destun y meddiannu arfaethedig drwy’r ddolen ganlynol:
Mae'r cynllun hefyd ar gael i'w weld yn Llyfrgell Porthcawl, Church Place, Porthcawl, CF36 3AG rhwng 9.15am a 6pm ddydd Llun, 9.15am-5pm ddydd Mawrth, 9.15am-1pm ddydd Mercher a 9.15am-5pm ddydd Iau i ddydd Sadwrn. Nodwch fod y Llyfrgell ar gau amser cinio rhwng 1:00pm a 2:00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac nad yw ar agor ar ddydd Sul.
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.