Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 2017
System.NullReferenceException: Object reference not set to an instance of an object. at ASP._Page_app_plugins_s8080_grid_editors_render_image_cshtml.Execute() in D:\Umbraco\www_bridgend_gov_uk\app_plugins\s8080-grid\editors\render\image.cshtml:line 25 at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy() at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy() at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage) at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer) in D:\a\1\s\src\Umbraco.Web\Mvc\ProfilingView.cs:line 25 at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData) at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in D:\Umbraco\www_bridgend_gov_uk\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20
Darlun cyffredinol
Ar ôl i’r cyllid a geir gan y llywodraeth ganolog gael ei ostwng yn barhaus, mae holl gynghorau’r DU yn gorfod newid eu ffordd o weithredu a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu er mwyn iddynt allu ymdopi â llai o arian. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno gostyngiad o fwy na £36 miliwn i’w gyllideb dros y pedair blynedd diwethaf, a disgwylir iddo barhau i gyflwyno cyfanswm o £35 miliwn mewn gostyngiadau dros y pedair blynedd nesaf yn ychwanegol at hynny.
Er gwaethaf yr heriau ariannol o’i flaen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn benderfynol o wireddu ei weledigaeth, sef cydweithio i wella bywydau ar draws y fwrdeistref sirol, drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau y buoch yn ein helpu i’w pennu ddwy flynedd yn ôl:
1. Cefnogi economi lwyddiannus;
2. Helpu pobl i fod yn fwy hunan-ddibynnol;
3. Defnydd doethach o adnoddau.
Hoffai’r cyngor glywed barn trigolion, sefydliadau a chymunedau lleol ynghylch sut y dylai sicrhau arbedion.
Hoffai’r cyngor glywed barn trigolion, sefydliadau a chymunedau lleol ynghylch lle dylai’r cyngor geisio gwireddu’r gostyngiadau cyllidebol angenrheidiol.
Dogfennau Cysylltiedig
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Sut i ymateb
Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 12 Hydref 2017 ac yn dod i ben ar 3 Rhagfyr 2017. Gallwch ymateb neu ofyn cwestiynau ychwanegol yn y ffyrdd canlynol:
Arolwg ieuenctid (dan 25s)
Ar-lein (25+)
Arolwg hygyrch
Rhif Ffôn: (01656) 643 664
E-bost: Consultation@bridgend.gov.uk
Post: Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cwrt y Cigfrain, Adain 3, Lôn y Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AP.
Mae croeso i chi ofyn am gopi mewn fformat gwahanol.
Bydd pawb sy’n llenwi’r arolwg hwn yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill y canlynol:
1. Blwyddyn o aelodaeth lawn gyda Hamdden Halo
2. Tocynnau ar gyfer penwythnos agoriadol pantomeim Cinderella
Lleoliad | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr | 23 Tachwedd 2017 | 18:00 - 20:00 |
Y Centre Porthcawl | 24 Tachwedd 2017 | 14:00 - 16:00 |
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr | 30 Tachwedd 2017 | 15:30 - 17:30 |
Gweithgaredd | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
22 Tachwedd 2017 | 18:30 - 20:00 | |
22 Tachwedd 2017 | 18:30 - 20:00 |
Ymgynghoriad
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion | 3 Rhagfyr 2017 |
Adroddiad i'r Cabinet ynglŷn â chanlyniadau'r ymgynghoriad | 19 Rhagfyr 2017 |
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.