Deall y galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Darlun cyffredinol
Byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hoffi cael eich barn am addysg Gymraeg. Bydd y wybodaeth a gawn drwy gyfrwng yr arolwg hwn yn helpu i fesur y galw am addysg Gymraeg yn y dyfodol a hefyd yn helpu’r Cyngor i ddeall sut rydych yn teimlo tuag at ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gall pobl Cymru ddewis byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, neu’r ddwy. Mae’n bwysig, felly, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel yr awdurdod lleol, yn deall ac yn asesu’r galw am addysg Gymraeg drwy’r sir a sicrhau ein bod yn gallu cynllunio i fodloni’r galw hwn.
Gall plant y Cyngor Bwrdeistref ddewis cael addysg Gymraeg p’un a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio, a hynny o’r dosbarth meithrin i’r ysgol uwchradd ac addysg ôl 16. Bydd yr arolwg yn cymryd hyd at ddeg munud i’w lenwi ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer pawb yn y fwrdeistref sirol.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 26 Medi 2016 and cau ar 19 Rhagfyr 2016. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:
Cyswllt:
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Mae croeso i chi ofyn am fformatau gwahanol hefyd.
Ymgynghoriad
Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.
Camau | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad terfyn ar gyfer ymateb. | 19 Rhagfyr 2016 |
Cyhoeddi’r adroddiad terfynol | 7 Chwefror 2017 |
Cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad | 14 Chwefror 2017 |
Dyddiad gweithredu posibl | 1 Medi 2017 |
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.