Darpariaeth ar gyfer ADY, newidiadau i Ysgol Gynradd Betws
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Cynnig yw hwn i roi’r gorau i ddarpariaeth anogaeth yr ALl yn Ysgol Gynradd Betws o 1 Ebrill 2019.
Yn dilyn cyfnod o asesu eu hanghenion, bydd y disgyblion sydd yn narpariaeth anogaeth yr ALl yn Ysgol Gynradd Betws ar hyn o bryd naill ai’n ailintegreiddio yn ôl i’w hysgol brif ffrwd neu’n trosglwyddo i’r ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen yn Y Bont.
Bydd yr ymarfer ymgynghori’n ceisio barn staff, rhieni, disgyblion, partïon â buddiant a’r corff llywodraethu fel cam cyntaf yn y broses statudol. Os caiff y cynigion eu cefnogi byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod yr ymgynghoriad pryd rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynnig. | 20 Tachwedd 2018 i 31 Rhagfyr 2018 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. | 22 Ionawr 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghori ein gwefan. | 30 Ionawr 2019 |
Dogfennau
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
consultation@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643664
Cyfeiriad:
Y Swyddfeydd Dinesig,
Stryd Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.
Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.