Cynnig i ymgynghori ar y Strategaeth Eiddo Gwag 2019 i 2023
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd safbwyntiau ar y cynnig i weithredu Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023.
Ar gyfartaledd, mae tua 1400 o eiddo preswyl preifat gwag yn y tymor hir (gwag am 6 mis neu gyfnod hirach) yn y fwrdeistref sirol. Ceir ymrwymiad a chyfrifoldeb corfforaethol i wneud defnydd unwaith eto o eiddo gwag.
Mae’r cyngor wedi datblygu Strategaeth Eiddo Gwag sy’n nodi’r amcanion a’r nodau canlynol er mwyn lleihau nifer yr eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol:
- adnabod a blaenoriaethu eiddo gwag
- darparu help a chymorth i berchnogion
- sicrhau cyfathrebu effeithiol
- gweithio’n agos â phartneriaid mewnol ac allanol
- ystyried y defnydd o weithredu gorfodol
Mae’r strategaeth yn amlinellu dull y cyngor o flaenoriaethu a gwneud defnydd unwaith eto o eiddo gwag, a helpu i gyfrannu tuag at gynyddu argaeledd tai ar gyfer eu gwerthu neu eu rhentu.
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion. | 1 Chwefror 2019 tan 28 Ebrill 2019 |
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. | 16 Mehefin 2019 |
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. | 24 Mehefin 2019 |
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:
- yr arolwg ar-lein
- y ffurflen ar-lein hygyrch ar gyfer yr ymgynghoriad hwn
- yr arolwg papur
- y fersiwn papur print bras
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.
Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Dogfennau
- Dogfen ymgynghori (1) (PDF 272Kb)
- Strategaeth Eiddo Gwag 2019 i 2023 (PDF 829Kb)
- Strategaeth Eiddo Gwag Datganiad Prosesu Teg (PDF 170Kb)