Cynnig i ehangu Ysgol Gynradd Llangrallo
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.
Dogfennau cysylltiedig
- dogfen ymgynghori
- Adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
- cliciwch yma ar gyfer yr hysbysiad statudol mewn perthynas â'r cynnig
- cliciwch yma ar gyfer y penderfyniad
Darlun cyffredinol
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd eich barn ar y cynnig i wneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Llangrallo drwy ehangu.
Bydd y rhai yr ymgynghorir â hwy yn cynnwys staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni’r ysgol, aelodau o'r gymuned leol ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 6 Medi 2017 ac yn diweddu ar 17 Hydref 2017.
Gellwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach yn y ffyrdd canlynol:
Cyswllt:
Mae’r amserlen a’r weithdrefn dros dro fel a ganlyn:
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*. | 06 Medi 2017 hyd 17 Hydref 2017 |
Adroddiad yr Ymgynghoriad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. | 31 Hydref 2017 |
Cyhoeddi Adroddiad yr Ymgynghoriad ar wefan CBS Pen-y-bont ar Ogwr; copïau caled ar gael ar gais. | 3 Tachwedd 2017 |
Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno â’r cynnig, cyhoeddir Hysbysiad Cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig yn ysgrifenedig. | 6 Tachwedd 2017 |
Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu ar unwaith p’un ai symud ymlaen ynteu peidio. Os bydd yna unrhyw wrthwynebiad, cyhoeddir Adroddiad Gwrthwynebiadau a’i anfon i'r Cabinet iddynt gael ei ystyried a gwneud penderfyniad yn dilyn hynny. | 3 Rhagfyr 2017 |
Gweithredu posibl. | 1 Ionawr 2018 |
*Noder na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i'r cynnig ac na ellir cofrestru gwrthwynebiadau ond ar ôl cyhoeddi'r Hysbysiad Cyhoeddus.
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.