Trawsysgrif fideo Cynllun Meistr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Yr ymgynghoriad ar uwchgynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Mae uwchgynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi gweledigaeth ar gyfer cymuned gyfannedd a ffyniannus sy’n cydblethu menter, cyflogaeth, addysg, yr arfer o fyw mewn tref, diwylliant, twristiaeth a lles. Mae’r cynllun yn nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni dros y deng mlynedd nesaf.
Mae pedair thema i’r uwchgynllun:
- twf
- cydnerthedd
- llesiant
- hunaniaeth
Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, sy’n sail i wyth parth datblygu, y mae 23 o brosiectau wedi cael eu hadnabod ynddynt, a nifer o brosiectau safle-cyfan.
Mae’r parthau datblygu’n cynnwys:
- Ardal yr orsaf reilffordd
- Bracla, Nolton a Hen Gastell
- Y craidd manwerthu
- Ardal caffis a diwylliannol
- Y Porth Gogleddol
- Glan yr Afon
- Y Castellnewydd
- Sunnyside
Prosiectau allweddol yn yr uwchgynllun yw:
- mynedfa newydd i’r orsaf reilffordd o Heol Tremaen a Lôn Llynfi
- gwelliannau i’r Porth Gogleddol - i greu porth darllenadwy a deniadol i ganol y dref.
- adleoli Coleg Pen-y-bont i ganol y dref
- creu hwb diwylliannol fel man cynnal digwyddiadau dan do
- sgwâr dref newydd
- mwy o gyfleoedd i fyw yn y dref
- mynediad gwell at ganol y dref
- cryfhau’r craidd manwerthu
- gwelliannau yn ac ar hyd Afon Ogwr
Rhai o’r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu gofyn yn ystod yr ymgynghoriad yw:
- ydych chi’n cytuno â’r cynigion a beth yw’r prosiectau sy’n flaenoriaeth?
- fyddech chi’n cytuno â’r cynnig i greu mynedfa i’r orsaf reilffordd o Heol Tremaen a Lôn Llynfi?
- sut ydych chi’n meddwl all yr uwchgynllun newydd helpu i gyflawni ac ategu cymysgedd iach o fanwerthwyr annibynnol a chenedlaethol yn ardaloedd manwerthu craidd y dref?
- pa weithgareddau diwylliannol a hamdden hoffech chi eu gweld yng nghanol y dref?
- fyddech chi’n hoffi gweld canol tref Pen-y-bont ar Ogwr fel lle â mwy o gyfleoedd i fyw yn y dref?
- beth yw eich meddyliau ynglŷn â mynediad ar gyfer cerbydau a cherddwyr yng nghanol y dref?
- ydych chi’n cefnogi’r cynigion i greu sgwâr newydd ar gyfer y dref a mwy o fannau gwyrdd yng nghanol y dref?