Cynllun Meistr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Trawsysgrif fideo Cynllun Meistr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cynllun Meistr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer lle bywiog y mae posib byw ynddo. Mae'r weledigaeth yn dod â menter, cyflogaeth, addysg, byw yn y dref, siopa, diwylliant, twristiaeth a llesiant at ei gilydd mewn lleoliad hanesyddol.
Mae'r cynllun yn nodi cyfres o brosiectau uchelgeisiol y gellir eu cyflawni. Er mwyn cyflawni'r weledigaeth gyffredinol ac adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y deng mlynedd nesaf, nodwyd pedair thema gyffredinol:
- twf
- cadernid
- llesiant
- hunaniaeth
Parthau datblygu
Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, sydd wedi bod yn sail i wyth parth datblygu, lle nodwyd 23 o brosiectau perthnasol, ynghyd â nifer o brosiectau ar draws y safle.
Mae'r parthau datblygu yn cynnwys:
- Ardal yr Orsaf Reilffordd
- Bracla, Nolton ac Oldcastle
- Y Craidd Manwerthu
- Caffi a Chwarter Diwylliannol
- Porth y Gogledd
- Glan yr Afon
- Newcastle
- Sunnyside
Prosiectau allweddol
Y prosiectau allweddol yn y cynllun meistr yw:
- mynedfa newydd i'r orsaf reilffordd o Heol Tremains a Lôn Llynfi
- gwelliannau i Borth y Gogledd - creu porth clir a deniadol i ganol y dref
- adleoli Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i ganol y dref
- creu hwb diwylliant dan do ar gyfer gofod digwyddiadau
- sgwâr tref newydd
- mwy o fyw yn y dref
- gwell mynediad i ganol y dref
- cryfhau'r craidd manwerthu
- gwelliannau yn Afon Ogwr ac ar ei hyd
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Cysylltu
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin ynglŷn ag Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Dogfen gynllunio hirdymor ddynamig sy’n cynnig cynllun damcaniaethol i roi arweiniad ar gyfer adfywio a thwf yn y dyfodol ac yn creu cysylltiad rhwng adeiladau, lleoliadau cymdeithasol, a’r amgylcheddau o’u cwmpas yw uwchgynllun. Mae uwchgynllun yn cynnwys dadansoddiad, argymhellion, a chynigion ar gyfer y boblogaeth, yr economi, tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, a defnydd tir mewn ardal. Mae’n seiliedig ar fewnbwn gan y cyhoedd, arolygon, mentrau cynllunio, datblygiad presennol, nodweddion ffisegol, ac amodau cymdeithasol ac economaidd.
Mae’r uwchgynllun ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi gweledigaeth ar gyfer cymuned gyfannedd a ffyniannus. Mae’n nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fanteision a chyfleoedd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yr uwchgynllun yn cael ei ddefnyddio fel offeryn cynllunio i wella canol y dref a bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau cyllid yn y dyfodol i gyflawni prosiectau a nodwyd.
Dull cynhwysfawr o gynllunio, dylunio a rheoli mannau cyhoeddus yw creu lleoedd. Mae’n manteisio ar asedau, ysbrydoliaeth, a photensial lleol, gyda’r nod o greu mannau cyhoeddus sy’n hybu iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl.
Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru wedi cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru ar y cyd â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae’r siarter yn adeiladu ar y ffocws cynyddol ar Greu Lleoedd mewn polisi ac arfer yng Nghymru ac yn amcanu at ddarparu dealltwriaeth gyffredin am yr ystod o ystyriaethau sy’n rhan o greu lleoedd.
Mae’n bwysig cofio bod Uwchgynllun yn golygu yn union hynny, sef cynllun sy’n cynnig man cychwyn ar gyfer y broses benderfynu a fydd yn dilyn. Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud heb ymgysylltiad llawn a bydd ymgynghori helaeth â pherchnogion eiddo a busnesau. Mae nifer o adeiladau gwag yng nghanol y dref y gellid eu defnyddio i adleoli unrhyw fusnesau sydd mewn eiddo sy’n rhan o gynnig ar gyfer ailddatblygu neu ddymchwel.
Dechreuodd proses yr uwchgynllun yn union cyn argyfwng pandemig Covid-19 sydd wedi gafael yng Nghymru, y DU a’r byd. I’r perwyl hwn mae’r uwchgynllun wedi addasu ac wedi ystyried yr angen i fod yn hyblyg, ac mae’n cynnwys nodyn cynghori ar fynd i’r afael â datblygu canol trefi yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg ynghylch Covid-19 ac yn blaenoriaethu prosiectau i sicrhau adferiad cynaliadwy a datblygiad hirdymor canol y dref.
Mae hon yn adeg allweddol i gynllunio ar gyfer adferiad canol y dref ar ôl yr effaith y mae Covid-19 wedi’i chael ac mae’r uwchgynllun yn nodi safleoedd datblygu allweddol yng nghanol y dref a fyddai’n ei gwneud yn bosibl defnyddio dull wedi’i gynllunio ar gyfer datblygu a mewnfuddsoddi yn y dyfodol i gynorthwyo gyda’r adferiad hwn.
Bydd y prosiectau adfywio a nodir yn Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhoi ar waith mewn amryw gamau dros y 10 mlynedd nesaf. Er mwyn defnyddio dull cyflawni wedi’i gynllunio, mae cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i roi cymorth i lunio llinell amser prosiectau, blaenoriaethu a chynllunio prosiectau ac, ar ben hynny, adnabod pa adnoddau neu fewnbynnau y mae eu hangen i gyflawni prosiectau unigol.
Bydd cyflawni’r uwchgynllun yn llwyddiannus yn ddibynnol ar ddull sy’n defnyddio partneriaeth weithredol rhwng rhanddeiliaid allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd dull strategol o gyflawni prosiectau’n cael ei fabwysiadu, gyda CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu fel hwylusydd allweddol i ddod â galluogwyr prosiectau allweddol ynghyd i gyflawni prosiectau sy’n rhan o’r weledigaeth ar y cyfan ar gyfer adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu cyflwyno i nifer o gyrff ariannu i gyflawni prosiectau, y mae rhai ohonynt yn cynnwys:
• Llywodraeth y DU
• Llywodraeth Cymru
• Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
• Buddsoddi Preifat
• Ac amryw gyrff ariannu eraill
Cynllun Meistr blaenorol Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a fabwysiadwyd fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn 2011. Roedd yn seiliedig ar adfywio a arweinir gan fanwerthu a gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y cyfnod hyd at 2020.
Y weledigaeth gyffredinol oedd 'sicrhau bod canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ehangu ei ddarpariaeth manwerthu ac yn cyflawni ei botensial fel tref farchnad ffyniannus, fywiog a hygyrch'.
Mae'r cynllun meistr newydd ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn canolbwyntio ar adfywio. Mae'n amlinellu gweledigaeth ar gyfer cymuned fywiog y gellir byw ynddi. Mae'n nodi cyfres o brosiectau uchelgeisiol y gellir eu cyflawni ar gyfer y deng mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fanteision a chyfleoedd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae dwy astudiaeth wedi'u cynnal hyd yma i edrych ar symudiad cerbydau yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Astudiaeth Mynediad Canol y Dref - Capita 2016
Ym mis Ionawr 2016, cynhaliodd Capita astudiaeth ar ran CBSP i adolygu dulliau ac asesu'r risgiau o gynyddu mynediad cerbydau i rannau o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Paratowyd yr adroddiad gan fod masnachwyr canol y dref wedi sylwi ar ostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ers cwblhau'r cynllun cerddwyr yn 2004. Honnwyd bod hyn wedi gwaethygu wrth gau maes parcio Rhiw dros dro yn ystod y gwaith ailddatblygu arno yn 2015/16.
Asesodd yr astudiaeth dair senario:
- atal y cynllun cerddwyr bob amser
- cyfyngu'r cynllun cerddwyr i rhwng 11am a 3pm, a chaniatáu mynediad llawn i gerbydau ar bob adeg arall
- ystyried gwrthdroi'r system unffordd bresennol ar Stryd Wyndham a Stryd Caroline
Fel rhan o'r astudiaeth hon, mae'r penderfyniad i naill ai ganiatáu i gerbydau ddod i mewn i'r dref drwy gydol y dydd neu gyfyngu'r amseroedd i'r rhai y tu allan i'r amseroedd siopa brig yn allweddol, yn enwedig o ystyried lefel y buddsoddiad sydd wedi’i wneud gan y Cyngor mewn gwelliannau i fannau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
O blith y senarios a aseswyd gan Capita, byddai cadw'r statws cynllun cerddwyr yn ystod cyfnodau manwerthu brig yn gwneud y profiad siopa yn well i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer arallgyfeirio a dwysáu economi'r nos gyda'r dref. Byddai hyn hefyd yn helpu i gyfyngu ar effaith bosib methiannau sylfaenol drwy gyfyngu ar gyfnodau llwytho.
- Cynllun Mynediad Canol Tref (2019)
Comisiynodd CBSP WSP i gynnal astudiaeth o effaith ailgyflwyno traffig cerbydau i ran o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n rhan o Barth Cerddwyr ar hyn o bryd. Mae'r ardal a ystyrir fel rhan o'r astudiaeth yn dechrau ym mhen deheuol Stryd y Frenhines, yn parhau ar hyd Dunraven Place a Stryd y Farchnad hyd at y gyffordd â Heol Quarella.
Cynigir bod y ffyrdd hyn yn parhau i fod yn unffordd tua'r gogledd i'r Senotaff ac wedyn yn unffordd tua'r dwyrain i'w chyffordd â Heol Quarella, sef y trefniant presennol ar gyfer llwytho rhwng 6pm a 10am yn unig.
Mae canlyniadau'r astudiaeth, yn seiliedig ar ddiogelwch a chostau yn unig, yn argymell bod Stryd y Frenhines, Dunraven Place a Stryd y Farchnad yn parhau i fod yn Barth Cerddwyr ac os caiff traffig cerbydau ei ailgyflwyno i Ardal yr Astudiaeth, byddai angen i CBSP dderbyn y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd a fyddai'n cael eu hailgyflwyno.
Bydd defnyddio safle presennol Gorsaf yr Heddlu fel lleoliad ar gyfer defnyddiau addysgol yn gweithredu fel catalydd ar gyfer adfywio canol y dref, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chyfrannu at greu economi a demograffeg gymysg a chreu canolbwynt yn yr ardal.
Mae'r cynllun meistr wedi amlinellu bod angen asesu meysydd parcio yn ardal astudio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ofalus. Argymhellir bod hyn yn destun astudiaeth fanwl i sicrhau bod digon o ddarpariaeth o feysydd parcio yn parhau, a'u bod yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol ar draws canol y dref.
Mae'r cynllun meistr hefyd yn nodi nifer o safleoedd ar gyfer cyfleoedd datblygu yn y dref, ac mae nifer ohonynt yn lleoliadau ar hyn o bryd ar gyfer naill ai feysydd parcio gwastad neu aml-lawr. Er mwyn datblygu'r safleoedd hyn yn y dyfodol, cynigir dull o gadarnhau ac ailddosbarthu er mwyn cadw meysydd parcio mewn lleoliadau priodol o amgylch y craidd canolog, gyda gwell arwyddion a llwybrau cysylltu.
Fodd bynnag, mae Nodyn Cyngor Technegol 18 Llywodraeth Cymru Trafnidiaeth (TAN 18) yn cefnogi'r egwyddor o dai heb geir mewn lleoliadau sydd â chysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus da, a lle mae parcio'n cael ei reoli. Ystyrir bod llai o lefydd parcio, neu ddatblygiadau heb geir, yn addas yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddai angen ystyried yn ofalus yr angen am gyflwyno/diwygio'r cyfyngiadau parcio presennol ar y stryd yn yr ardal leol yn yr Asesiad(au) Trafnidiaeth sy'n cefnogi'r cynigion. Am y rheswm yma, gall darpariaeth parcio a rennir gynnig ateb arall.
Hefyd mae TAN 18 Trafnidiaeth yn cefnogi'r syniad o ddatblygiadau cyfagos neu ddefnydd cymysg yn rhannu mannau parcio. Er enghraifft, gallai ailddatblygu defnydd cymysg ardal yr orsaf gefnogi rhywfaint o ddarpariaeth parcio a rennir rhwng datblygiad preswyl a'r orsaf reilffordd.
Gorchymyn Prynu Gorfodol yw pan fydd gan y Llywodraeth, Cynghorau neu Gwmnïau Cyfleustodau, o dan rai amgylchiadau, Hawl Statudol i brynu eiddo neu gymryd hawl drosto. Er mwyn ymarfer hawliau o'r fath, rhaid i'r corff fodloni meini prawf penodol fel y nodir gan statud, yn benodol, rhaid i'r awdurdod brofi bod y pryniant er budd y cyhoedd.
Cynhyrchwyd cynllun meistr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i roi cyfeiriad strategol i reoli datblygiad canol y dref yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae'n weledigaeth uchelgeisiol ac mae yn y cam ymgynghori. Pan fydd cam cynllunio'r prosiect yn dechrau, dyma pryd y gellid cynnal Gorchymyn Prynu Gorfodol er mwyn mynd â phrosiectau drwodd i'r cam datblygu.
Cwestiynau Cyffredin yr Ymgynghoriad
Proses o roi/casglu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod cyfnod penodedig o amser (gyda dyddiad dechrau a gorffen clir) ac sy’n goleuo penderfyniad ynghylch cynnig, polisi neu wasanaeth newydd yw ymgynghoriad. Rydym ni’n credu ei bod yn bwysig i’r holl randdeiliaid allweddol gael lleisio barn ynglŷn â sut y caiff gwasanaethau eu rhedeg a bod hynny’n sicrhau ein bod yn dal i gadw cysylltiad â’r hyn y mae ar ein trigolion ei angen.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i gasglu amrywiaeth eang o farn gan gymaint â phosibl o bobl a busnesau gwahanol ledled y fwrdeistref.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu gyda’r Cabinet a’r Cyngor cyn bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ynglŷn â’r uwchgynllun terfynol.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos, gan ddechrau ar ddydd Llun 7 Rhagfyr. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr holl ganlyniadau’n cael eu hadolygu ac os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau, byddant yn cael eu gwneud yn gynnar yn 2021, gydag uwchgynllun terfynol yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2021.