Croesfan Pencoed a Phont Ffordd Penprysg
Sylwch: Mae'r argraffiadau arlunydd hyn at ddibenion arddangos yn unig ac efallai nad ydynt yn gynrychiolaeth bendant.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar y cynnydd presennol sy'n gysylltiedig â buddsoddiad trafnidiaeth cyfalaf mawr i wella hygyrchedd aml-foddol ym Mhencoed a thrwyddi.
Ym Mhencoed, mae'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe yn rhannu'r gymuned rhwng y dwyrain a'r gorllewin, gyda chroesfan reilffordd yn Ffordd Hendre a phont ffordd dros y rheilffordd yn Penprysg Road, i'r gogledd o'r groesfan reilffordd.
Dros y degawdau mae nifer y cerbydau ar ein ffyrdd wedi cynyddu, ac mae mwy o wasanaethau rheilffordd yn defnyddio'r rhwydwaith – felly mae tagfeydd traffig sylweddol yn effeithio ar y dref pan fydd rhwystrau'r groesfan ar gau er mwyn caniatáu i drenau basio'n ddiogel.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal astudiaeth, gan weithio gyda Network Rail a phartneriaid eraill, i geisio dod o hyd i ateb hirdymor i'r broblem hon.
Gelwir hyn yn astudiaeth WelTAG. WelTAG yw Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Mae WelTAG yn fframwaith ar gyfer meddwl am newidiadau arfaethedig i'r system drafnidiaeth.
Ystyriodd astudiaeth WelTAG y canlynol:
- Tagfeydd
- Gwahanu
- Teithio Llesol
- Cyfyngiad ar ddatblygu economaidd
- Effeithlonrwydd trafnidiaeth gyhoeddus
- Cynnydd yn y gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol
Rhan bwysig o'r broses, wrth ystyried unrhyw ddatblygiad, yw mesur barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Diben y ddogfen ymgynghori hon felly yw amlinellu'r datblygiad arfaethedig.
Croesfan Pencoed a Phont Ffordd Penprysg ddogfen ymgynghori am fwy o wybodaeth.
Digwyddiadau
I'r ymgyngoreion hynny sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau am y cynlluniau, cynhelir digwyddiadau galw heibio yn y lleoliadau canlynol:
Lleoliad |
Amser |
Dyddiad |
Bridgend College – Pencoed Campus |
2pm to 4pm |
Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021 |
Pencoed Pavilion, Felindre Road |
10am to 12pm |
Dydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021 |
Pencoed Town Council (Salem Chapel) |
6pm to 8pm |
Dydd Llun 15 Tachwedd 2021 |
Pencoed Library |
10am to 12pm |
Dydd Gwener 3 Rhagfyr 2021 |
Y broses ymgynghori
Gweithgaredd |
Dyddiad |
Dyddiad cau ar gyfer ymateb |
6pm ddydd Sul 30 Ionawr 2022 |
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. |
Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 |
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os bydd penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig hwn ac efallai bydd cynnig arall yn cael ei geisio.
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Gall yr awdurdod lleol ddarparu copïau papur o'r arolwg ac mewn fformatau eraill, ar gais.