Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - arolwg gwella Pen-y-bont
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.
Dogfennau cysylltiedig
- Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr Asesiad Llesiant Lleol Drafft Ymgynghori
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- gwybograffegau
Darlun cyffredinol
Yn 2015, cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i sicrhau bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar hyd a lles y wlad yn gwneud cymaint â phosibl i wella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol pobl a chymunedau. Partneriaeth sy’n cynnwys 15 o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (y Bwrdd) ac maent yn cydweithio i wella gwasanaethau lleol. Darllenwch ragor…
Mae Bwrdd Pen-y-bont ar Ogwr wedi casglu’r holl dystiolaeth a ddaeth i law i baratoi asesiad drafft o les. Aeth ati i baratoi’r asesiad er mwyn deall yn well yr hyn y mae pobl yn ei ystyried sy’n agweddau cadarnhaol ar ein cymunedau, yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r modd y gall y Bwrdd gydweithio - yn awr, ac yn y dyfodol - i gynllunio a darparu gwasanaethau. Mae’r Bwrdd am wybod a ydych yn cytuno â’r wybodaeth a gasglwyd a pha agweddau ar les sydd bwysicaf i chi.
Sut i ymateb
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 15 Chwefror 2017 and cau ar 19 Mawrth 2017. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:
Cyswllt:
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Mae croeso i chi ofyn am fformatau gwahanol hefyd.
Ymgynghoriad
Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.
Camau | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad terfyn ar gyfer ymateb | 19 Mawrth 2017 |
Cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad | 10 Ebrill 2017 |
Dyddiad gweithredu posibl | 25 Ebrill 2017 |
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau
Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.