Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Mae’n ofynnol drwy’r gyfraith i bob awdurdod lleol yng Nghymru gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant fel dyletswydd statudol o Ddeddf Gofal Plant 2006. Mae’r asesiad yn cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddeall yn well defnydd rhieni/gofalwyr o ofal plant, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y sir ac unrhyw ffactorau ychwanegol a all effeithio ar y galw am ofal plant dros y bum mlynedd nesaf.
Yn ogystal â phennu meincnod o’r ddarpariaeth, bydd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn galluogi awdurdodau lleol i fesur graddfa a natur yr angen am ofal plant, a’r cyflenwad o ofal plant, yn y fwrdeistref sirol; adnabod bylchau yn y farchnad, a chynllunio sut mae cefnogi’r farchnad i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r bylchau a adnabuwyd wedi’u nodi yn y ddogfen Dadansoddiad o Fylchau a gweler y cynllun i’w cefnogi yn y Cynllun Gweithredu. Hoffem gael eich safbwyntiau ar y ddau.
Dyddiad cau: 16 Rhagfyr 2022