Arolwg Ymgysylltu â Busnesau
Fel rhan o'r Tasglu Economaidd sydd newydd ei sefydlu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn arwain ar Raglen Ymgysylltu â Busnesau.
Gofynnir i fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn ein helpu i asesu effaith Covid-19 a’r DU yn gadael yr UE ar yr economi leol.
Am yr arolwg hwn
Mae Tasglu Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr eisiau deall y prif faterion mae busnesau'n eu hwynebu yn y sefyllfa bresennol, eu dyheadau ar gyfer y dyfodol a syniadau am feysydd cefnogi posibl wrth symud ymlaen.
Bydd yr Arolwg Ymgysylltu â Busnesau’n rhoi sylw i’r meysydd canlynol:
- amdanoch chi
- statws masnachu eich busnes
- eich staff
- cyllid, hyfforddiant a chefnogaeth busnes
- gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)
- y dyfodol
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Y camau nesaf
Defnyddir canfyddiadau'r arolwg hwn i ddatblygu cynllun economaidd. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu i helpu busnesau i addasu i'r newid yn y tirlun economaidd.
Bydd yn gwneud y canlynol:
- helpu busnesau i addasu i'r newid yn y tirlun economaidd
- cefnogi busnesau i adfer o bandemig y coronafeirws
- gwella gwydnwch
- darparu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnesau newydd