Arolwg cyhoeddus canol trefi
Mae mwy na mis wedi mynd heibio ers i ganol trefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ailagor ers cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae llawer o fusnesau wedi bod yn gweithio’n galed i addasu i gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.
Hefyd mae’r cyngor wedi gwneud newidiadau i ganol trefi i helpu i hwyluso cadw pellter cymdeithasol.
Yn dilyn y newidiadau hyn, hoffai’r cyngor roi amser i glywed gan ei drigolion, i ddeall sut maent wedi addasu i’r mesurau newydd sydd wedi cael eu rhoi yn eu lle.
Hoffem wybod sut mae’r cyfyngiadau symud wedi newid y ffordd rydych chi’n siopa ac yn ymweld â chanol trefi.
Mae’r dychwelyd at normal newydd yn broses sy’n esblygu a dyma pam rydym yn awyddus i gael gwybod beth yw barn y trigolion.
Rhowch ychydig funudau i lenwi’r holiadur byr yma.
Bydd eich adborth yn ein helpu ni i ddeall y defnydd o ganol trefi ac yn ein helpu i ystyried unrhyw fesurau ymarferol i wella eich profiad siopa.
Cwblhau’r arolwg
Amserlen yr arolwg
Bydd yr arolwg hwn yn cau am 5pm ddydd Gwener 21 Awst 2020.