Adolygiad o ardaloedd, mannau a gorsafoedd pleidleisio
Mae’r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bob etholwr gyfleusterau pleidleisio rhesymol a digonol, sydd hefyd yn darparu ar gyfer pleidleiswyr anabl. O ganlyniad, bydd yn ystyried pob lleoliad pleidleisio ar sail:
- mynediad cyffredinol
- hygyrchedd i bleidleiswyr anabl
- addasrwydd i gynnal proses bleidleisio yn effeithiol
- maint yr etholaeth
- ei bellter o holl fannau pleidleisio’r ardal
- mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus at ddewisiadau gwahanol
- pa mor effeithiol yw cost y trefniadau
Bydd unrhyw ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio newydd yn dod i rym ar gyfer yr etholiad nesaf sydd wedi'i drefnu yn 2020.
Rhaid cyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol erbyn 4pm ar 8 Tachwedd 2019.
Yna bydd yr ymgynghoriad yn cymryd saib. Pan fydd yn ailagor ar 15 Tachwedd, bydd yn bosibl ymateb i’r sylwadau fydd wedi’u gwneud.
Ymateb i’r ymgynghoriad
Fel arall, llenwch yr holiadur isod a’i anfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.
Ymateb i’r sylwadau sydd eisoes wedi’u gwneud
Dylech adolygu’r sylwadau cychwynnol hyn ar yr ymgynghoriad, ac ymateb iddynt uchod.
Mae’n rhaid i sylwadau ychwanegol ddod i law erbyn 4pm ar 22 Tachwedd 2019 i hysbysu’r argymhellion terfynol.
Gellir cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol yn ysgrifenedig i gyflwyno unrhyw sylwadau yn herio canlyniadau’r adolygiad hwn. Dylech chi nodi’n eglur y modd yr honnir fod y Cyngor wedi methu â chynnal yr adolygiad yn briodol:
Cyswllt:
Y Cwnsler Cyfreithiol
Ffacs: 020 7271 0505
Dyddiadau ymgynghori pwysig
Dyddiad | Cam Gweithredu |
---|---|
4pm, 8 Tachwedd | Mae'r ymgynghoriad yn cymryd saib er mwyn adolygu'r sylwadau. |
15 Tachwedd | Mae'r ymgynghoriad yn ailagor gyda sylwadau o'r cylch cyntaf, y gellir ymateb iddynt. |
22 Tachwedd | Mae'r ymgynghoriad yn cau am y tro olaf. |
Dogfennau
- Hysbysiad o Adolygiad (DOCX 19Kb)