Adolygiad o addysg ôl-16
Mae’r drafodaeth hon ar addysg ôl-16 yn adeiladu ar ymgynghoriad cynharach. Mae tri opsiwn ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol wedi cael eu datblygu o chwe chysyniad gwreiddiol. Hoffem gael eich barn arnynt a hefyd eu gwahanol ganlyniadau.
Yr opsiynau ar gyfer addysg ôl-16 yn y dyfodol
- Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
- Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd yn cael ei llywodraethu gan goleg addysg bellach.
- Cadw’r chweched dosbarth ym mhob ysgol, ond gyda datblygiad pellach er mwyn gwella darpariaeth yr opsiwn hwn.
Nid yw Opsiynau 1 a 2 yn cael eu hystyried ar wahân yn llwyr a gellid bwrw ymlaen ag elfennau o’r ddau opsiwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn nogfennau’r ymgynghoriad isod.
Dogfen yr ymgynghoriad:
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- prif arolwg ar lein
- prif arolwg
- prif arolwg print mawr ar lein
- prif arolwg print mawr
- arolwg ieuenctid ar lein
- arolwg ieuenctid
Anfonwch ymatebion i’r cyfeiriad isod.
Cyswllt
Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad:
Swyddfeydd Sifil,
Stryd Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad:
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 21 Chwefror 2020.
Dyddiadau ar gyfer digwyddiadau’r ymgynghoriad
Cyfle i siarad gyda’r swyddogion ymgysylltu am yr ymgynghoriad ar y dyddiadau isod.
Ysgol | Dyddiadau | Amser |
---|---|---|
Coleg Cymunedol y Dderwen | 14 Ion | 5yp |
Ysgol Brynteg | 21 Ion | 5yp |
Ysgol Maesteg | 22 Ion | 5yp |
Ysgol Gyfun Cynffig | 23 Ion | 5yp |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd | 28 Ion | 5yp |
Ysgol Gyfun Bryntirion | 29 Ion | 5yp |
Ysgol Gyfun Porthcawl | 6 Chwef | 5yp |
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr | 10 Chwef | 5yp |
Ysgol Gyfun Pencoed | 12 Chwef | 5yp |
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath | 13 Chwef | 5yp |